5-7.03.2010 Cwrs Cyfansoddi, Ty Newydd

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

5-7.03.2010 Cwrs Cyfansoddi, Ty Newydd

Postiogan Olwen Dafydd » Llun 26 Hyd 2009 4:33 pm

Cwrs Cyfansoddi
Mawrth 5 - 7

gyda Steve Eaves ac Elwyn Williams


Mae’r cwrs hwn ar gyfer ysgrifenwyr a cherddorion sydd â diddordeb mewn cyfansoddi. Dewch i gael eich hysbrydoli gan ddau gerddor proffesiynol i ysgrifennu penillion caneuon neu greu darn o gerddoriaeth. Byddwch yn mynychu sesiynau grŵp yn ogystal â chael y cyfle i weithio â’r tiwtoriaid mewn sesiynau unigol. Cofiwch fod croeso i chi ddod ag offeryn gyda chi!

Steve Eaves - Bu’n perfformio ar lwyfannau fel cerddor ers dros 40 mlynedd, a daeth i amlygrwydd fel bardd a gyhoeddodd ddwy gyfrol o’i waith, Noethni (1983) a Jazz yn y Nos (1986). Ar ôl cyhoeddi ei ail gyfrol o gerddi, penderfynodd ganolbwyntio mwyfwy ar ddefnyddio’i ganeuon a’i gerddoriaeth fel cyfrwng mynegiant. Mae Steve a’i fand, Rhai Pobl, wedi recordio 9 albwm o ganeuon gwreiddiol Steve ers 1983 – yn eu plith Cyfalaf a Chyfaddawd (1985), Croendenau (1992), Y Canol Llonydd Distaw (1996), Iawn (1999) a Moelyci (2007).

Elwyn Williams - Mae ei gyfraniad i ganu cyfoes Cymraeg yn ymestyn `nôl i ddiwedd y 1970'au. Bu'n cyfansoddi caneuon gyda'r grwp Doctor; ar gyfer Enw Da, Geraint Lovgreen ac, yn fwy diweddar, gyda'r bardd, Iwan Llwyd. Cychwynnodd ei bartneriaeth gyda Steve Eaves yn yr '80'au cynnar ac ers hynny, bu'n cyd-gynhyrchu, ac yn chwarae offerynnau amrywiol, ar ei holl recordiau. Bu hefyd yn cyd-weithio â nifer o artistiaid eraill, o Gymru a thu hwnt, ac mae ei enw yn ymddangos ar dros 30 o recordiau.

Prisiau: £200 (Preswyl); (+£25 am ystafell sengl) £150 (Di-breswyl)

Cysylltwch i gadw lle: post@tynewydd.org 01766 522811
www.tynewydd.org
Olwen Dafydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 46
Ymunwyd: Iau 27 Tach 2003 4:47 pm
Lleoliad: Ty Newydd

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron