Gyfeillion.
Fe wyddoch, efallai, am y digwyddiadau a gynhelir yng Nghilmeri yn flynyddol er mwyn cofio Llywelyn ap Gruffydd, ein Llyw Olaf a laddwyd gan luoedd Edward Iaf ar Ragfyr 11eg 1282.
Eleni y mae'r seremoniau coffa yn digwydd ar ddydd Sadwrn y 12ed o Ragfyr.
Am ragor o wybodaeth ewch i'r wefan yma:
http://www.gurfal.com/Cilmeri/index.htm
Dewch, cofiwch Dywysog Llywelyn.
Dewch yn llu, gwisgwch iorwg a pheidiwch anghofio dillad cynnes ac esgidiau glaw!!
Dewch a thorch eiddew/iorwg i'w gosod - hollbwysig! Torch o bob rhan o Gymru er cof am Llywelyn!
Y garegog wrogaeth - i gofio
Dy gyfiawn filwriaeth,
Dy anfarwol farwolaeth
Yn gwaedu dros Gymru gaeth.
Geraint Bowen