30.1.10 : Gweithdy Gwerin Clera : Bangor

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

30.1.10 : Gweithdy Gwerin Clera : Bangor

Postiogan cwrwgl » Gwe 04 Rhag 2009 2:02 pm

GWEITHDY CLERA

Dydd Sadwrn 30 Ionawr 2010
10.15 - 4.30pm
Ysgol Tryfan, Bangor

Sesiwn Nos yn Nhafarn y Nelson, Lon Glan Mor, Bangor
o 8.30pm ymlaen (mynediad am ddim i'r sesiwn nos)

Cost Mynynychu'r gweithdau
£5 - £15 (yn ol amgylchiadau)
am gopi o'r daflen a manylion llawn gweler
http://www.clera.org


Y DOSBARTHIADAU:

CYFEILIO I DDAWNSIO - Huw Roberts
Astudio gofynion a thechnegau cyfeilio i ddawnsio. Bydd angen cofrestru o flaen llaw i dderbyn rhestr o'r alawon - rhaid dysgu'r alawon CYN mynychu'r gweithdy!! (Ni threulir unrhyw amser yn dysgu'r alawon yn ystod y dydd).

Athro ysgol o Sir Fon yw'r ffidlwr a'r tiwtor profiadol Huw Roberts, un o sylfaenwyr Clera. Bu'n aelod o'r grwpiau gwerin Cilmeri a 4 yn y Bar. Mae hefyd yn chwarae'r delyn deires, yn awdurdod ac awdur llyfr ar wisgoedd traddodiadol Cymru, ac yn arweinydd Dawnswyr Bro Cefni.


SESIWN ARA DEG - Cass Meurig
Dysgu set o alawon Cymreig gan bwyll. Trin a thrafod y grefft o gyd-chwarae mewn sesiynau gwerin ac edrych ar beth sy'n gwneud set dda.

Mae Cass Meurig yn wyneb cyfarwydd i'r sîn werin fel ffidlwraig ac fel un o brif chwaraewyr y crwth. Mae wedi perfformio yn rhyngwladol a recordio fel unawdydd ac fel aelod o fandiau Fernhill a Pigyn Clust. Rhyddhaodd CD ('Deuawd') gyda'r gitarydd Nial Cain yn ddiweddar.


RHO IM ALAW - Patrick Rimes
Dosbarth ar gyfer cerddorion sydd eisoes yn medru chwarae eu hofferynnau ond sy'n gyfan gwbl neu'n weddol newydd i gerddoriaeth draddodiadol. Cyfle i ddysgu setiau o alawon craidd o'r repertoire Cymreig gan edrych ar dechnegau chwarae gwerinol.

Cerddor ifanc amryddawn sydd wedi codi trwy rengoedd gweithdai Clera yw Patrick Rimes o'r Gerlan. Mae'n chwarae mewn sesiynau gwerin lleol yn rheolaidd. Mae Patrick yn arweinydd Band Pres Ieuenctid Porthaethwy yn ogystal a bod yn aelod o'r grwp gwerin Calan, cerddorfa werin Y Glerorfa, Band Pres Porthaethwy, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Opra Cymru, a mwy...!


GWEDD NEWYDD I'R HEN DONAU - Ceri Rhys Matthews
Ar gyfer cerddorion profiadol sydd yn hyderus yn dysgu alawon o'r glust. Bod yn greadigol gydag alawon traddodiadol Cymreig a datblygu dehongliad personol.

Mae'r pibydd, ffliwtydd, gitarydd a chanwr Ceri Rhys Matthews yn perfformio mewn deuawd gyda'r ffidlwraig Christine Cooper ac fel aelod o'r band Fernhill. Mae'n hyfforddi cerddoriaeth ar Brosiect Ioan Rhagfyr Dolgellau a 'Pibau Pencader' ac ar enciliadau cerddorol 'Yscolan', a gynhelir yng nghanolfan Pentre Ifan. Mae hefyd wedi cynhyrchu CDs ar gyfer labeli fflach:tradd, world music network, beautiful jo records, a smithsonian folkways.


DOSBARTH PRYNHAWN FFIDIL I BLANT - Almut Bone (1.30pm)
Yn addas i rai sydd wedi bod yn dysgu ers o leiaf blwyddyn.

Mae Almut, sydd yn wreiddiol o'r Almaen, yn athrwes ffidil yn ardal Gwynedd a Mon. Mae'n aelod o'r Glerorfa.


Os nad ydych yn gweld grwp sy'n addas i chi, neu ddim yn sicr pa ddosbarth i'w fynychu, cysylltwch i holi. Nid yw'r gweithdy yn addas i ddechreuwyr llwyr.
Anogir chi i ddod ag offer i recordio'r alawon a ddysgir - bydd yr alawon yn cael eu dysgu o'r glust h.y. heb gopi!
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Re: 30.1.10 : Gweithdy Gwerin Clera : Bangor

Postiogan cwrwgl » Llun 28 Rhag 2009 11:15 pm

RHESTR O'R ALAWON AR GYFER DOSBARTH CYFEILIO HUW ROBERTS

(Nid oes angen profiad blaenorol o chwarae cerddoriaeth draddodiadol i fynychu'r dosbarth cyfeilio ond mae yn ofynol i chi ddysgu'r alawon isod CYN dod i'r gweithdy)

yr holl alawon i'w cael yn nghyfraolau Cymdeithas Ddawrns Werin Cymru...

BLODAU'R GRUG = BG
CADW TWMPATH = CT
 
Ty Coch Caerdydd (alaw o'r un enw yn G)
BG11 t.12
 
Dawns Flodau Nantgarw (alaw Nos Galan yn G)
BG1 t.7

Y Ddafad Gorniog (dwy alaw Y Ddafad Gorniog yn G & Y Ceiliog Gwyn yn D)
BG35 t.20 / BG35a t.20

Clawdd Offa (alaw Sawdl y Fuwch yn D)
BG12 t.12 / BG32 t.19 

Clocsio - (alawon Pwt ar y Bys yn G a Croen y Ddafad Felen yn G)
BG4a t.9 / BG36 t.21

Ril i Dri (lluniwyd gan HR) (alaw Ffidl Ffadl yn G)
CT51 t.20

Y Delyn Newydd ( alaw o'r un enw yn G)
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Re: 30.1.10 : Gweithdy Gwerin Clera : Bangor

Postiogan cwrwgl » Mer 27 Ion 2010 11:52 am

Mae llefydd yn dal i fod ar ol i'r gweithdy ddydd Sadwrn.
Dim angen cofrestru o flaen llaw - jyst trowch fyny ar y bore i dalu / cofrestu.
Dewch yn llu!
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm


Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai