Tudalen 1 o 1

Seminar Gyrfaoedd ym Myd Archifo

PostioPostiwyd: Mer 13 Ion 2010 1:01 pm
gan RIB
2-4yp, 24 Chwefror 2010, Caerdydd

Seminar rhyngweithiol a llawn gwybodaeth am yr amryw gyfleon a llwybrau gyrfaol sydd ar gael o fewn y sector archifo clyw-weledol. Mae’n bosib iawn y gall y prynhawn yma newid eich bywyd!

• Allet ti fod yn Reolwr Archif Cyfryngol?
• Beth yw’r swydd?
• Hoffet ti newid dy lwybr gyrfa, ail-hyfforddi efallai?

Bydd yr arbennigwyr canlynol ar gael ar y diwrnod -

• Sue Malden, Cadeirydd, Focal International
• Edith Hughes, Rheolwr Ymchwil ac Archif, BBC Cymru
• Jen Pappas, Pennaeth Rheoli Cynnwys, S4C
• Owain Meredith ITV Cymru
• Iola Baines, Rheolwr Datblygu Ffilm, Archif Sgrîn a Sain Genedlaethol Cymru
• Sarah Trigg, Cydlynydd y Gronfa Ffilm, Skillset

Pwy ddylai fynychu? - Pobl broffesiynol sydd â diddordeb mewn ail-hyfforddi fel rheolwyr archif cyfryngol (bydd nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ar gyfer myfyrwyr a graddedigion)

Digwyddiad am ddim. PEIDIWCH AG OEDI, COFRESTRWCH NAWR I SICRHAU EICH LLE!

Am wybodaeth pellach a rhaglen - http://www.cyfle.co.uk

Yn cael trafferth cofrestru, neu eisiau sgwrs am y digwyddiad? Cysyllter â Rhian ar rhian@cyfle.co.uk neu 02920 465533.
____________

Y seminar hwn fydd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau a chyfleon ym maes Rheoli Archif Cyfryngol yn ystod 2010 – ewch i http://www.cyfle.co.uki gofrestru nawr er mwyn derbyn cylchlythyr Cyfle a sicrhau na fyddwch yn colli’r cyfle.

Ariannir gan Gronfa Sgiliau Ffilm Skillset, S4C, TAC a cefnogir gan Skillset
*Mae Cronfa Sgiliau Ffilm Skillset yn cael ei gefnogi gan y Loteri Genedlaethol drwy’r Cyngor Ffilm Prydeinig a’r diwydiant ffilm drwy’r Gronfa Buddsoddi mewn Sgiliau.


PWY YW CYFLE? http://www.cyfle.co.uk
Cyfle yw cwmni hyfforddi diwydiannau’r cyfryngau creadigol yng Nghymru. Sefydlwyd Cyfle yn 1986 i hyfforddi technegwyr ar gyfer y diwydiant i ymateb i ddyfodiad S4C. Yn ystod 2000 enillodd Cyfle ei statws fel Darparwr Hyfforddi Cenedlaethol Swyddogol Skillset (y Cyngor Sgiliau Sector). Cyfle yw’r prif borth mynediad i’r diwydiant ar gyfer newydd ddyfodiaid ac mae’n cynnig cymorth hyfforddi ymarferol i weithlu'r diwydiant.

Twitter - Cyfle (#archivingcareeropps)
Facebook - Hyfforddiant Cyfle Training