SYMPOSIUM AML-BLATFFORM 2010 (15 Ebrill)

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

SYMPOSIUM AML-BLATFFORM 2010 (15 Ebrill)

Postiogan RIB » Mer 13 Ion 2010 1:06 pm

SYMPOSIUM AML-BLATFFORM 2010
ysbrydoliaeth, gwybodaeth, creadigrwydd - 360°

15 Ebrill 2010, ATRiuM, Caerdydd

Digwyddiad unigryw i Gymru, sy’n gyfle i gynnyddu ymwybyddiaeth o effaith datblygiadau aml-blatfform ar y broses greadigol a comisiynnu cyfryngol.

Bydd cyfle i –

• Rwydweithio gyda meddylwyr blaengar
• Wrando a rhyngweithio â siaradwyr o safon uchel
• Ddatblygu syniadau, creu cysylltiadau, a chael eich ysbrydoli
• Ehangu deallusrwydd o’r newid byd yn sgil aml-blatfform

Prif siaradwyr wedi eu cadarnhau (mwy yn cael eu ychwanegu bob wythnos!) –

• Matt Locke – Pennaeth Comisiynu Addysg, Channel 4
• James Kirkham - Cyfarwyddwr, Holler
• Justine Potter – Cynhyrchydd Gweithredol, Savvy Productions
• Tim Wright – Cynhyrchydd Croes-Blatfform
• Sarah Clay - Gweithredydd Comisiynu Drama Aml-Blatfform i BBC Vision

Pwy ddylai fynychu? – Unrhywun sy’n gweithio yn y diwydiannau cyfryngau creadigol (teledu, ffilm, aml-gyfryngol)

Pris isel anhygoel o £50 am y diwrnod (yn cynnwys TAW a lluniaeth)

Pam oedi? Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle!

Gwybodaeth bellach a rhaglen – http://www.cyfle.co.uk


Cyflwynir mewn partneriaeth â Skillset Cymru, ac ariannwyd gan S4C a TAC.

PWY YW CYFLE? http://www.cyfle.co.uk
Cyfle yw cwmni hyfforddi diwydiannau’r cyfryngau creadigol yng Nghymru. Sefydlwyd Cyfle yn 1986 i hyfforddi technegwyr ar gyfer y diwydiant i ymateb i ddyfodiad S4C. Yn ystod 2000 enillodd Cyfle ei statws fel Darparwr Hyfforddi Cenedlaethol Swyddogol Skillset (y Cyngor Sgiliau Sector). Cyfle yw’r prif borth mynediad i’r diwydiant ar gyfer newydd ddyfodiaid ac mae’n cynnig cymorth hyfforddi ymarferol i weithlu'r diwydiant.

Twitter - Cyfle (#mpsymp2010)
Facebook - Hyfforddiant Cyfle Training
RIB
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Mer 13 Ion 2010 12:23 pm

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron