Tudalen 1 o 1

Protest, Y Gymraeg Mewn Peryg: gad iddi fyw 10/02/10 Caerdyd

PostioPostiwyd: Gwe 05 Chw 2010 12:01 am
gan Hedd Gwynfor
Protest - Y Gymraeg Mewn Peryg: gadewch iddi fyw

Cyfarfod ar risiau'r Senedd am 11 y.b.
Dydd Mercher, 10ed o Chwefror, 2010


Ar ddydd Mercher y 10ed o Chwefror, bydd yr hir ddisgwyliedig ond yn anffodus yr hynod wan: LCO Iaith yn cael ei basio. Canlyniad hyn yw y bydd y Llywodraeth yn gadael cwmniau mawr yn rhydd o?u cyfrifoldeb tuag at y Gymraeg, ond dyw Cymdeithas yr Iaith na phobl Cymru am wneud hynny.

Ymunwch â ni ar risiau 'Senedd' Cymru am 11am ar y 10ed o Chwefror i ddatgan eich anfodlonrwydd gyda'r gwleidyddion. Cyn symud ymlaen at swyddfa Bwrdd yr Iaith ar Heol Santes Fair.

Mae'r cwmniau mawrion yma fel Boots, Tesco, Superdrug ayyb na fydd yn dod o dan yr LCO yn credu fod cydweithio gyda Bwrdd yr Iaith i greu cynlluniau iaith tocenistig yn wasanaeth Cymraeg digonol. Dewch â'ch tystiolaeth i'w roi i Fwrdd yr Iaith (boed yn daflenni/posteri/baneri uniaith Saesneg neu yn lythyron oddi wrth y cwmniau yn esgusodi eu hunain rhag gynnig gwasanaeth hollol ddwyieithog!) er mwyn dangos nad oes gennym hawliau llawn i'r Gymraeg; ac i ddangos fod cynlluniau iaith a sêl bendith Bwrdd yr Iaith yn esgus rhwydd i'r cwmniau yma, sydd yn gwneud miliynau os nad bilynnau o bunnoedd o elw y flwyddyn, rhag gynnig y gwasanaeth hollol Gymraeg y mae pobl Cymru yn ei haeddu.

Re: Protest, Y Gymraeg Mewn Peryg: gad iddi fyw 10/02/10 Caerdyd

PostioPostiwyd: Sul 07 Chw 2010 4:01 pm
gan Angharad Clwyd
Bydd car yn mynd o chrau LLandysul gyda lle i 1 falle 2 arall os oes angen lifft ar rhywun. Halwch neges bersonol ato fi os oes diddordeb da chi.