Allwch chi sbario ychydig amser i’n helpu i ledaenu’n neges? Ni fyddwch wrthi am fwy nag awr, a bydd digon o amser i chi weld Cymru’n ennill y rygbi!
Cysylltwch â ni os ydych chi ar gael i’n helpu - cymruyfory@stratamatrix.co.uk
Yn dilyn argymhellion positif a diamheuol adroddiad y Confensiwn Cymru Gyfan o blaid rhoi pwerau deddfu go-iawn i'r Cynulliad Cenedlaethol, mae gan Cymru Yfory gynlluniau i ehangu ei weithgareddau ac adeiladu momentwm mewn cefnogaeth o bleidlais ‘Ie’ mewn refferendwm ar bwerau deddfu go-iawn i’r Cynulliad.
Mae Cymru Yfory yn gorff aml-bleidiol, traws-sector, aml-ffydd sy'n dod ag ystod eang o unigolion ynghŷd, sy'n weithgar yng nghymdeithas sifil Cymru.
www.cymru-yfory.org