13/02/10 - Caerdydd - Mae Cymru Yfory angen eich help!
Postiwyd: Gwe 05 Chw 2010 9:11 pm
Ddydd Sadwrn, Chwefror 13eg, bydd Cymru Yfory yn dosbarthu taflenni yng Nghaerdydd cyn y gêm ryngwladol fawr rhwng Cymru a’r Alban.
Allwch chi sbario ychydig amser i’n helpu i ledaenu’n neges? Ni fyddwch wrthi am fwy nag awr, a bydd digon o amser i chi weld Cymru’n ennill y rygbi!
Cysylltwch â ni os ydych chi ar gael i’n helpu - cymruyfory@stratamatrix.co.uk

Yn dilyn argymhellion positif a diamheuol adroddiad y Confensiwn Cymru Gyfan o blaid rhoi pwerau deddfu go-iawn i'r Cynulliad Cenedlaethol, mae gan Cymru Yfory gynlluniau i ehangu ei weithgareddau ac adeiladu momentwm mewn cefnogaeth o bleidlais ‘Ie’ mewn refferendwm ar bwerau deddfu go-iawn i’r Cynulliad.
Mae Cymru Yfory yn gorff aml-bleidiol, traws-sector, aml-ffydd sy'n dod ag ystod eang o unigolion ynghŷd, sy'n weithgar yng nghymdeithas sifil Cymru.
www.cymru-yfory.org