Tudalen 1 o 1

Cyfarfodydd Grwpiau Lleol Cymry Yfory: Wrec,Aber,Ponty,Caerf

PostioPostiwyd: Llun 08 Maw 2010 4:24 pm
gan Hedd Gwynfor
Bydd nifer o gyfarfodydd grwpiau lleol yn cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf - bydd siaradwyr gwadd yn bresennol i drafod gwaith Cymru Yfory ac i ateb eich cwestiynau.

-Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir Fflint - 7.30pm, nos Fercher y 10fed o Fawrth yng Nghlwb Cymdeithasol Wrecsam Lager, 1 Union Rd, Wrecsam, LL13 7SR.

-Ceredigion - 7.30pm, nos Lun y 15fed o Fawrth yng Nghanolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth, SY23 1JH.

-Rhondda Cynon Taf - 7.30pm, nos Fawrth yr 16eg o Fawrth yng Nghlwb y Bont, 85a Taff Street, Pontypridd, CF37 4SL.

-Sir Gaerfyrddin - 7.30pm, nos Fercher yr 17eg o Fawrth yn y Boars Head, 120 Heol Awst, Caerfyrddin, SA31 3AE.

Mae Cymru Yfory yn gorff aml-bleidiol, traws-sector, aml-ffydd sy'n dod ag ystod eang o unigolion ynghŷd, sy'n weithgar yng nghymdeithas sifil Cymru. Yn dilyn argymhellion positif a diamheuol adroddiad y Confensiwn Cymru Gyfan o blaid rhoi pwerau deddfu go-iawn i'r Cynulliad Cenedlaethol, mae gan Cymru Yfory gynlluniau i ehangu ei weithgareddau ac adeiladu momentwm mewn cefnogaeth o bleidlais ‘Ie’ mewn refferendwm ar bwerau deddfu go-iawn i’r Cynulliad.