Cyfarfodydd Grwpiau Lleol Cymry Yfory: Wrec,Aber,Ponty,Caerf

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyfarfodydd Grwpiau Lleol Cymry Yfory: Wrec,Aber,Ponty,Caerf

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 08 Maw 2010 4:24 pm

Bydd nifer o gyfarfodydd grwpiau lleol yn cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf - bydd siaradwyr gwadd yn bresennol i drafod gwaith Cymru Yfory ac i ateb eich cwestiynau.

-Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir Fflint - 7.30pm, nos Fercher y 10fed o Fawrth yng Nghlwb Cymdeithasol Wrecsam Lager, 1 Union Rd, Wrecsam, LL13 7SR.

-Ceredigion - 7.30pm, nos Lun y 15fed o Fawrth yng Nghanolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth, SY23 1JH.

-Rhondda Cynon Taf - 7.30pm, nos Fawrth yr 16eg o Fawrth yng Nghlwb y Bont, 85a Taff Street, Pontypridd, CF37 4SL.

-Sir Gaerfyrddin - 7.30pm, nos Fercher yr 17eg o Fawrth yn y Boars Head, 120 Heol Awst, Caerfyrddin, SA31 3AE.

Mae Cymru Yfory yn gorff aml-bleidiol, traws-sector, aml-ffydd sy'n dod ag ystod eang o unigolion ynghŷd, sy'n weithgar yng nghymdeithas sifil Cymru. Yn dilyn argymhellion positif a diamheuol adroddiad y Confensiwn Cymru Gyfan o blaid rhoi pwerau deddfu go-iawn i'r Cynulliad Cenedlaethol, mae gan Cymru Yfory gynlluniau i ehangu ei weithgareddau ac adeiladu momentwm mewn cefnogaeth o bleidlais ‘Ie’ mewn refferendwm ar bwerau deddfu go-iawn i’r Cynulliad.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron