Mae ITV Cymru ar hyn o bryd wrthi yn cynhyrchu cyfres o bump o raglenni ar yr Etholiad ar gyfer S4C.
Rydym yn chwilio am gynulleidfa ar gyfer raglen sy'n cael ei ffilmio yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth heno am 7.30y.h. (Nos Iau yr 8fed o Ebrill).
Byddwch yn rhan o’r gynulleidfa gyda’r diddanwr Emyr Roberts (cnex) yno. Mae'n argoeli i fod yn noson llawn hwyl.
Bydd diodydd am ddim.
Croeso cynnes i bawb!!!
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach mae croeso i chi gysylltu â ni ar 07789270019.
Diolch