dysgu geiriau crach yn sydun

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

dysgu geiriau crach yn sydun

Postiogan robin hughes » Iau 15 Ebr 2010 1:43 pm

Ar ol dod yn ol i fyw yn Sir fon mi wnes i feindio allan bod bob dogfen a oedd yn dod trwy'r drws yn ddwy ieithog.Nid roeddwn yn deall llawe o'r geiriau ar y dogfen cymraeg! Mi wnes i allan i'r pentre i ofyn be oedd y geiriau yma yn feddwl.Yr unig un oedd yn deall geiriau crach oedd y prif athro a oedd wedi ymddeol yn y pentref,
Ychydig iawn sydd y n deall "Proper Welsh"
Dyma ddyll newydd spon i ddysgu geiriau newydd. Cymerwch y gair LLID. Maer gair yma yn edrych yn debig i LID yn saesneg! Maen rhaid i chi rhoi y LID drost rhywbeth ar eich corff sydd yn brifo ee Eich arennau! LLID YR ARENNAU=inflammation of the kidneys! LLID= inflammation! Maen bosib i wbneud ryw ffilm bach fel hyn hefo ryw air cymraeg a byth anghofio'r gair!

EE y gair MOTIVATED yn gymraeg? Sgwenwch y gair cymraeg fel hyn CYM HELL IANT(O)
Mae genych chi dri llyn yma CYM oedd(VALLEYS), HELL= Uffern, a IANTO=hogyn bach cymraeg o Gaernarfon Mae gen Ianto lot o GYMHELLIANT Mae yn mynd i Uffern yn aml iawn ond maen hoffi byw yn y cymoedd.
Mae ygeiriau yma wedi casglu i gilydd yn yr ymenydd a mae yn amhosib i anghofio y gair rwan(nawr!
Yr wyf yn medru cofio canoedd o eiriau mewn rhyw iaith fel hyn YN Gair newydd bob munud.. Dysgu ar garlam yw'r enw yn gymraeg neu MULTI SENSORY learning yn saesneg Edrychwch ar y We! Os yr ydych yn ceisio dygu ryw bwnk cewch i Gyfathrebu hefo'r Boio yma Clywodd Glyn Dwr, riddfannau yn esgyn o'r cymoedd RIDDFANNAU! Gair crach arall!
robin hughes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Sul 17 Ion 2010 1:26 pm

Re: dysgu geiriau crach yn sydun

Postiogan Duw » Iau 15 Ebr 2010 4:27 pm

Credet ti byth faint mae pobol yn codi i addysgu'r technegau 'ma. Cofio nhw'n dod i'r ysgol ac addysgu'r plant sut i gofio rhestr o eirie. Gret am 'party trick' ond ddim mor ddefnyddiol â hynny yn gyffredinol. Mae cannoedd (efallai llai!) o ddulliau cofio mas yna. Dwi ddim yn dweud eu bod nhw ddim yn gweithio, ond diawl, mae rhai ohonyn nhw'n ddiflas. Tybed a oes un am sillafu?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: dysgu geiriau crach yn sydun

Postiogan robin hughes » Iau 15 Ebr 2010 4:39 pm

wrth gwrs, mae na ddyll i ddysgu pobol i 'spelio' hefyd! Fel athro rwyf wedi defnyddio dulliau fel hyn i ddysgu plant di-obaith!
robin hughes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Sul 17 Ion 2010 1:26 pm

Re: dysgu geiriau crach yn sydun

Postiogan Duw » Iau 15 Ebr 2010 11:22 pm

robin hughes a ddywedodd:wrth gwrs, mae na ddyll i ddysgu pobol i 'spelio' hefyd! Fel athro rwyf wedi defnyddio dulliau fel hyn i ddysgu plant di-obaith!


Dwi'n credu aeth hwnna dros dy ben di.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: dysgu geiriau crach yn sydun

Postiogan Candelas » Gwe 16 Ebr 2010 3:00 am

dyle chi weld y termau ma nwn dod i fynu efo yn yy byd cyrfriaiduron a sound tech yn coleg.

e.e.
ProTools studio (sef Make/Brand) yn cael iw drosi i Sdiwdio Offer-Cyn. Diom yn gwneud synnwyr hyd yn oed. a pam fod angen trosi ENW!!? dwin gwybod bod on dda bod nhwn trio gwned yr ymdrech i drosir geiriau ond i drosi nwn anghywir! man wallgo yn enwedig pan dwin gwneud rhan or cwrs trwyr gymraeg. A dio ddim yn helpu pan maer athro sun trio dysgu ni druan ohono yn dod o Bath a da ni gogs yn sharad rhy gyflym iddo! happy days!
Candelas
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Mer 17 Chw 2010 11:25 am

Re: dysgu geiriau crach yn sydun

Postiogan Duw » Sul 18 Ebr 2010 9:58 am

Dwi ddim yn cytuno gyda throsi enwau (byd TG). Mae problem enfawr gyda thermau TG - mae geiriaduron yn anghyflawn ac o ganlyniad mae pob dyn a'i frawd yn cynhyrchu geiriau eu hunain. Mae ffynhonnell dda yma:

http://www.e-gymraeg.org/bwrdd-yr-iaith ... px?lang=cy

Mae Prifysgol Bangor wedi cynhyrchu llwyth o adnoddau gwych, er yn anffodus, anodd iawn yw trosglwyddo'r wybodaeth hon i'r cyhoedd. Mae termau TG newydd yn cael eu cynhyrchu'n ddyddiol, fel bo'r technoleg yn datblygu. Problem erchyll. Mae angen cydbwysedd o eiriau ystwyth a dealltwriaeth dwys o'r term er mwyn sicrhau bod y cyfieithiad yn synhwyrol i BAWB.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron