Tudalen 1 o 1

dysgu geiriau crach yn sydun

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2010 1:43 pm
gan robin hughes
Ar ol dod yn ol i fyw yn Sir fon mi wnes i feindio allan bod bob dogfen a oedd yn dod trwy'r drws yn ddwy ieithog.Nid roeddwn yn deall llawe o'r geiriau ar y dogfen cymraeg! Mi wnes i allan i'r pentre i ofyn be oedd y geiriau yma yn feddwl.Yr unig un oedd yn deall geiriau crach oedd y prif athro a oedd wedi ymddeol yn y pentref,
Ychydig iawn sydd y n deall "Proper Welsh"
Dyma ddyll newydd spon i ddysgu geiriau newydd. Cymerwch y gair LLID. Maer gair yma yn edrych yn debig i LID yn saesneg! Maen rhaid i chi rhoi y LID drost rhywbeth ar eich corff sydd yn brifo ee Eich arennau! LLID YR ARENNAU=inflammation of the kidneys! LLID= inflammation! Maen bosib i wbneud ryw ffilm bach fel hyn hefo ryw air cymraeg a byth anghofio'r gair!

EE y gair MOTIVATED yn gymraeg? Sgwenwch y gair cymraeg fel hyn CYM HELL IANT(O)
Mae genych chi dri llyn yma CYM oedd(VALLEYS), HELL= Uffern, a IANTO=hogyn bach cymraeg o Gaernarfon Mae gen Ianto lot o GYMHELLIANT Mae yn mynd i Uffern yn aml iawn ond maen hoffi byw yn y cymoedd.
Mae ygeiriau yma wedi casglu i gilydd yn yr ymenydd a mae yn amhosib i anghofio y gair rwan(nawr!
Yr wyf yn medru cofio canoedd o eiriau mewn rhyw iaith fel hyn YN Gair newydd bob munud.. Dysgu ar garlam yw'r enw yn gymraeg neu MULTI SENSORY learning yn saesneg Edrychwch ar y We! Os yr ydych yn ceisio dygu ryw bwnk cewch i Gyfathrebu hefo'r Boio yma Clywodd Glyn Dwr, riddfannau yn esgyn o'r cymoedd RIDDFANNAU! Gair crach arall!

Re: dysgu geiriau crach yn sydun

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2010 4:27 pm
gan Duw
Credet ti byth faint mae pobol yn codi i addysgu'r technegau 'ma. Cofio nhw'n dod i'r ysgol ac addysgu'r plant sut i gofio rhestr o eirie. Gret am 'party trick' ond ddim mor ddefnyddiol รข hynny yn gyffredinol. Mae cannoedd (efallai llai!) o ddulliau cofio mas yna. Dwi ddim yn dweud eu bod nhw ddim yn gweithio, ond diawl, mae rhai ohonyn nhw'n ddiflas. Tybed a oes un am sillafu?

Re: dysgu geiriau crach yn sydun

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2010 4:39 pm
gan robin hughes
wrth gwrs, mae na ddyll i ddysgu pobol i 'spelio' hefyd! Fel athro rwyf wedi defnyddio dulliau fel hyn i ddysgu plant di-obaith!

Re: dysgu geiriau crach yn sydun

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2010 11:22 pm
gan Duw
robin hughes a ddywedodd:wrth gwrs, mae na ddyll i ddysgu pobol i 'spelio' hefyd! Fel athro rwyf wedi defnyddio dulliau fel hyn i ddysgu plant di-obaith!


Dwi'n credu aeth hwnna dros dy ben di.

Re: dysgu geiriau crach yn sydun

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2010 3:00 am
gan Candelas
dyle chi weld y termau ma nwn dod i fynu efo yn yy byd cyrfriaiduron a sound tech yn coleg.

e.e.
ProTools studio (sef Make/Brand) yn cael iw drosi i Sdiwdio Offer-Cyn. Diom yn gwneud synnwyr hyd yn oed. a pam fod angen trosi ENW!!? dwin gwybod bod on dda bod nhwn trio gwned yr ymdrech i drosir geiriau ond i drosi nwn anghywir! man wallgo yn enwedig pan dwin gwneud rhan or cwrs trwyr gymraeg. A dio ddim yn helpu pan maer athro sun trio dysgu ni druan ohono yn dod o Bath a da ni gogs yn sharad rhy gyflym iddo! happy days!

Re: dysgu geiriau crach yn sydun

PostioPostiwyd: Sul 18 Ebr 2010 9:58 am
gan Duw
Dwi ddim yn cytuno gyda throsi enwau (byd TG). Mae problem enfawr gyda thermau TG - mae geiriaduron yn anghyflawn ac o ganlyniad mae pob dyn a'i frawd yn cynhyrchu geiriau eu hunain. Mae ffynhonnell dda yma:

http://www.e-gymraeg.org/bwrdd-yr-iaith ... px?lang=cy

Mae Prifysgol Bangor wedi cynhyrchu llwyth o adnoddau gwych, er yn anffodus, anodd iawn yw trosglwyddo'r wybodaeth hon i'r cyhoedd. Mae termau TG newydd yn cael eu cynhyrchu'n ddyddiol, fel bo'r technoleg yn datblygu. Problem erchyll. Mae angen cydbwysedd o eiriau ystwyth a dealltwriaeth dwys o'r term er mwyn sicrhau bod y cyfieithiad yn synhwyrol i BAWB.