Egwyddorion Clirio Hawliau
Dyddiad: 17eg o Fai 2010
Canolfan: Yr Atrium, Caerdydd
Cost: £50 + TAW
Mae'r digwyddiad hwn yn un o gyfres sydd i'w cynnal ar bwnc rheoli archifau cyfryngol yng Nghaerdydd. Bydd dau siaradwr ar y dydd - gydag un siaradwr yn canolbwyntio ar syniadaeth a dehongliad cyfreithiol o hawlfraint a hawliau perchnogion cyrff cynrychiolaeth h.y.
• beth yw hawlfraint?
• beth yw oes hawlfraint?
• pa waith sy’n cael ei glirio?
• beth yw ‘orphan works’?
• beth yw gweithredu’n deg?
• beth yw cymdeithas gasglu?
• pwy sy’n cael eu cynrychioli gan gymdeithas gasglu?
Bydd yr ail siaradwr yn canolbwyntio ar enghreifftiau ymarferol gydag astudiaethau achos o glirio hawliau gan ymchwilydd archif profiadol.
Siaradwyr –
Karen Ghai (yn siarad am yr anghenion a fframwaith cyfreithiol)
Belinda Harris (yn siarad am brofiadau ymarferol o glirio hawliau ar gyfer cynhyrchiadau)
Trefnir y digwyddiad hwn mewn cydweithrediad â FOCAL International.
Pwy ddylai fynychu? -
Unrhywun sy'n gweithio yn y diwydiannau cyfryngau creadigol sydd angen ymdrin a ffilm, cerddoriaeth a gwaith arall sy'n dod o dan hawlfraint.
PEIDIWCH AG OEDI, SICRHEWCH EICH LLE DRWY GOFRESTRU NAWR!
___________________
GELLIR COFRESTRU AR GYFER Y CWRS DRWY WASGU AR FOTWM CYRSIAU BYRION AR DUDALEN FLAEN GWEFAN CYFLE -http://www.cyfle.co.uk
Cyswllt ar gyfer cwestiynnau – 01286 685242 / caernarfon@cyfle.co.uk
Ariannir gan Gronfa Sgiliau Ffilm Skillset*, S4C a TAC.
*Cefnogir Cronfa Sgiliau Ffilm Skillset gan y Loteri Genedlaethol drwy Cyngor Ffilm y DU a’r diwydiant ffilm drwy’r Gronfa Buddsoddi mewn Sgiliau.