Tudalen 1 o 1

Cwrs Diwrnod - Egwyddorion Rheoli Archif a Hawliau Digidol

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2010 11:49 am
gan RIB
Egwyddorion Rheoli Archif Digidol a Hawliau Digidol

Dyddiad: 18fed o Fai 2010
Canolfan: Yr Atrium, Caerdydd
Cost: £50 + TAW

Mae'r digwyddiad hwn yn un o gyfres sydd i'w cynnal ar bwnc rheoli archifau cyfryngol yng Nghaerdydd. Bydd dau siaradwr ar y dydd yn canolbwyntio ar ddamcaniaeth catalogio a chreu meta data ar gyfer archif cyfryngol.

Yn ystod y dydd bydd y siaradwyr yn rhoi enghreifftiau ymarferol o ymarfer da wrth gatalogio a chofnodi ynghyd ậ rheoli bas data’n effeithiol.

Siaradwyr - Karen Edwards a Luke Smedley.

Trefnir y digwyddiad hwn mewn cydweithrediad â FOCAL International.

Pwy ddylai fynychu? -
Unrhywun sy'n gweithio yn y diwydiannau cyfryngau creadigol sydd angen ymdrin a chreu a chadw archifau cyfryngol, boed hynny mewn cwmni cynhyrchu, fel darlledwr neu archif ffilm.

PEIDIWCH AG OEDI, SICRHEWCH EICH LLE DRWY GOFRESTRU NAWR!
___________________


GELLIR COFRESTRU AR GYFER Y CWRS DRWY WASGU AR FOTWM CYRSIAU BYRION AR DUDALEN FLAEN GWEFAN CYFLE -

http://www.cyfle.co.uk

Cyswllt ar gyfer cwestiynnau – 01286 685242 / caernarfon@cyfle.co.uk


Ariannir gan Gronfa Sgiliau Ffilm Skillset*, S4C a TAC.
*Cefnogir Cronfa Sgiliau Ffilm Skillset gan y Loteri Genedlaethol drwy Cyngor Ffilm y DU a’r diwydiant ffilm drwy’r Gronfa Buddsoddi mewn Sgiliau.