Tudalen 1 o 1

Geirfa gwael sy'n cael ei ddefnyddio

PostioPostiwyd: Llun 10 Mai 2010 12:50 pm
gan robin hughes
Mi gefais ffurflen trwy'r post y diwrnod diwethaf gan yr heddlu.
Nid yw fy iaith yn rhy ddrwg ond nid roeddwn yn deall yr ystyr, achos yr oedd llawer o'r geiriau yn ddiethr i mi fel sais wedi dysgy cymraeg yn yr ysgol. Yn fforddus yr oedd yr ystyr saesneg ar y tu ol i'r ffurflen. Mi benderfynais ofyn i bobol yn yr ardal os oedden nhw yn deall geiriau a oedd yn naturiol i bobol academaidd enwedig hen ffrind i mi a oedd yn brif athro o Sir Fon. Yr oedd y rhan fwyaf o'r bobl lleol ddim yn deall geiriau crach a oedd yn cael ei ddefnyddio yn y ffurflen. Yr oedd y rhan fwyaf yn darllen yr ochr saesneg..Yr oedden nhw yn cwyno bod neb yn defnyddio cymraeg " posh' fel hyn!Yr oedd y rhan fwaf hefyd yn teimlo'n well hefo defnyddio geiriau saesneg pan yr oedden yn siarad. Rwyn drist bod yr iaith yn diflanu yn araf deg? Mae o'n cymyd trafferth ofnadwy i ddysgu rhestr o eiriau anodd. Geiriau fel hymrwymiad,Ymddygiad,Gwrthgymdeithiasol,Arllwys,Gwawd, Bondigrybwyll,Tueddiad rhywiol.a canoedd o eiriay eraill sydd yn cael eu ddefnyddio ar s4c neu radio cymru! Mae,n rhaid i ni wneud rhywbeth. Oes na broblem? Robin

Re: Geirfa gwael sy'n cael ei ddefnyddio

PostioPostiwyd: Llun 10 Mai 2010 4:01 pm
gan sian
Rwyf i'n gyfieithydd ac mae hyn yn fater sy'n codi trwy'r amser. Mae'n anodd gwybod weithiau at ba lefel i anelu.
Rwy'n ceisio peidio â defnyddio jargon pan nad oes angen ond mae rhai geiriau y mae'n rhaid i rywun eu defnyddio - mae'n rhaid i iaith gael geiriau!
Dwi'n meddwl weithiau bod pobol mor gyfarwydd â'r geiriau Saesneg fel eu bod yn meddwl eu bod nhw'n eu deall nhw.
Efallai gyda'r twf mewn addysg Gymraeg, bydd pobl yn dod yn fwy cyfarwydd â thermau technegol yn y Gymraeg.

Beth sy'n gwneud "gwrthgymdeithasol" yn fwy anodd nag "anti-social"? Os rhywbeth, fyswn i'n dweud bod "tueddiad rhywiol" yn haws i'w ddeall na "sexual orientation". Efallai bod "arllwys" yn cael ei ddefnyddio mwy yn y de, ond mae'n rhaid i chi gael gair am "pour". Mae "ymrwymiad" yn air da am "commitment" - rydych chi'n rhwymo neu'n clymu eich hunan i rywbeth, a'r ffordd rydych chi'n ymddwyn yw "ymddygiad"

Fe wnes i flogio am hyn sbel yn ôl.

Re: Geirfa gwael sy'n cael ei ddefnyddio

PostioPostiwyd: Llun 10 Mai 2010 4:23 pm
gan Josgin
Mae arnaf ofn, Robin, mai dy gyfrifoldeb di yw dysgu'r iaith cystal ac sy'n bosibl. Petaet yn Gymro sy'n dysgu Saesneg, buasai pobl yn gwneud hwyl am dy ben petaet yn defnyddio geiriau Cymraeg yn lle geiriau Saesneg. O ddysgu iaith gyfandirol, rhaid dysgu'r gramadeg a'r geirfa'n iawn. Yn anffodus, isel iawn yw safon ein arholiadau (iaith gyntaf ac ail iaith ) , felly mae pobl yn dueddol o feddwl fod safon eu hiaith yn foddhaol pan nad ydyw ( mae'n sicr yn wir am raddedigion bellach, hefyd ) . Rhaid peidio torri'r iaith i lawr i rhyw fersiwn 'pidgin' o'r ffurf gywir . Ni welaf ddim byd o'i le, nac yn ddiarth , yn y termau yr wyt yn cwyno amdanynt.
Wedi dweud hynny , mae ambell i ffurflen yn gallu bod yn anodd i'w deall.