RHAGLEN MENTORA LEFEL UCHEL AR GYFER SGRIPTWYR TELEDU

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

RHAGLEN MENTORA LEFEL UCHEL AR GYFER SGRIPTWYR TELEDU

Postiogan RIB » Llun 10 Mai 2010 3:07 pm

RHAGLEN MENTORA LEFEL UCHEL AR GYFER SGRIPTWYR TELEDU

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5yp, dydd Mawrth 18fed o Fai 2010

Be sy’n cael ei gynnig?
Cyfle unigryw am fentora 1 i 1 ar gyfer 6 ‘sgwennwr teledu profiadol yng Nghymru – yn cynnig mynediad i fentoriaid Lefel Uchel o’r diwydiant ar draws genrau drama, comedi a phlant, gan gynnwys:

• Delyth Jones (‘sgwennwr a cynhyrchydd y dramâu Fondue Rhyw a Deinasors a Cwcw, sydd wedi ennill nifer o wobrau, ar gyfer S4C.)
• Neil Mossey (‘sgwennwr comedi sefydledig sydd â credydyau’n cynnwys Bounty Hamster (ITV1), My Parents Are Aliens (ITV1), The RDA with John Gordillo (BBC Choice) a RI:SE (Channel 4)
• Elen Rhys (‘sgwennwr a cynhyrchydd Tellytales – cyfres arloesol Cbeebies, sy’n cyfuno drama byw ac animeiddio)

Bydd yr ymgeiswyr llwyddianus hefyd yn mynychu pump gweithdy datblygu dau ddiwrnod gyda ‘sgwennwyr uchel-ael sydd wedi ‘sgwennu rhai o’r dramâu mwyaf poblogaidd ar deledu rhwydwaith gan gynnwys Ashley Pharoah (cyd-grëwr Life on Mars y BBC) a Lucy Gannon (Peak Practice a Soldier, Soldier). Hyd y cynllun fydd chwe mis.

Pwy all geisio?
Rydym yn chwilio am 6 sgriptiwr profiadol (2 drama / 2 comedi / 2 plant) sydd wedi ‘sgwennu dramâu teledu gwreiddiol, sgriptiau ar gyfer dramâu teledu, pennodau ar gyfer cyfresi teledu neu sydd â phrofiad o ddramâu theatrig.

Sut i ennill eich lle
Mae’r rhaglen hwn yn agored i ymgeiswyr sy’n gweithio drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg, ond rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru. Oherwydd natur noddedig a safon uchel y rhaglen, rydym yn rhagweld y bydd hi’n broses gystadleuol iawn i sicrhau lle. a dim ond £200 fydd rhaid i’r ymgeiswyr llwyddiannus ei dalu.

Cedwir lle ar y rhaglen i’r ymgeiswyr hynny sy’n cyrraedd y meini prawf dethol, ac sy’n gallu dangos y potensial â’r uchelgais i ddatblygu eu sgiliau sgriptio.

Sut ydw i’n ceisio?
Rhaid i ymgeiswyr ddarparu’r canlynol:
• Sgript lawn o gynhyrchiad sydd yn rhoi credyd i’r ymgeisiwr fel ‘sgwennwr
• Pitsh un tudalen A4
• Un olygfa o ddeialog wreiddiol wedi ei sgriptio heb fod yn fwy na 3 tudalen
• ‘Datganiad cenhadaeth’ y ‘sgwennwr, yn amlinellu pwy ydych chi a pham mai chi yw’r ymgeisydd gorau ar gyfer y cynllun hwn

Dyddiadau
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5yp, dydd Mawrth 18fed o Fai 2010
• Cynhelir cyfweliadau yng Nghaerdydd ddiwedd Mai / dechrau Mehefin 2010
• Dyddiad dechrau’r cynllun: 21ain o Fehefin 2010

Cyswllt
I weld canllawiau’r cynllun ac am fwy o wybodaeth ar y mentoriaid â’r tiwtoriaid, ewch i –http://www.cyfle.co.uk

Am atebion i unrhyw gwestiwn arall cysylltwch â Shân – 01286 685242 / shan@cyfle.co.uk

Ariannir y cynllun CYFLE hwn gan S4C a TAC, a cefnogir gan Skillset Cymru
RIB
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Mer 13 Ion 2010 12:23 pm

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron