Mae Gŵyl Merthyron Tolpuddle, ger Dorchester, yn ddathliad blynyddol o ddewrder chwech o ddynion di-nod a fentrodd ffurfio cangen o undeb llafur yn eu bro yn 1834, gan gael eu danfon i Awstralia am beryglu’r drefn. Cyfle i ddathlu ein treftadaeth radicalaidd.
Mae hefyd llu o fandiau, siaradwyr gwâdd, crefftau, storïau a chastell neidio i’r plantos (+ cream teas blasus yn neuadd y pentref).