Tudalen 1 o 2

Edrych mlaen at Steddfod

PostioPostiwyd: Mer 07 Gor 2010 1:54 pm
gan sian
Ydych chi'n edrych mlaen at rywbeth arbennig yn Steddfod leni?

Mae 'na gwpwl o nosweithiau addawol yn Maes C - yn arbennig:
Mynediad am Ddim nos Sadwrn; Ail Symudiad a Geraint Lovgreen, nos Fawrth.

Dwi am dreio gweld drama newydd Aled Jones Williams ac mae cyflwyniad Gareth Potter i'w weld yn ddiddorol.

Dw i newydd ffeindio rhaglen y Babell Lên - dyma rai o'r pethau sy'n apelio:
Sadwrn 31 Gorffennaf
13:00: Llên Gwerin Blaenau Gwent
Llun 2 Awst
12:00 Stori’r dydd: Annes Glynn
13:45 Darlith gan Sian Rhiannon
14:45 Bedwen Haf
Mawrth 3 Awst
10.00 Bedwen Haf
11:00 Y Wenwyseg - Mary Wiliam
15:45 Cofio Iwan Llwyd
Mercher 4 Awst
10:00 Cofio Dic Jones
11:00 Y Ddarlith Lenyddol - Peredur Lynch
13:45 Rhaglen Deyrnged i Dafydd Islwyn
Iau 5 Awst
11:00 Darlith Goffa Hywel Teifi Edwards
13:45 Cofio Hywel Teifi
15:45 Y beirdd ifanc
Sadwrn 7 Awst
09:00 Y Daith Lenyddol

Er bod dwy Babell y Cymdeithasau, sdim byd lawer i gyffroi amdano yn y naill na'r llall!
Dw i ddim yn siwr pwy sy'n darlithio yn sesiwn Cymdeithas Cyfieithwyr - mae honno'n ddifyr fel rheol

Mae Theatr Pena eto yn Theatr y Maes - wnes i fwynhau eu cyflwyniadau nhw llynedd

Rhywun arall yn gwybod am rywbeth difyr?

Re: Edrych mlaen at Steddfod

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2010 9:41 pm
gan Rhys
Pryd mae rhaglen y steddfod yn dod allan fel arfer? Wedi dod o hyd i hwn ar y wefan.

sian a ddywedodd:
Dwi am dreio gweld drama newydd Aled Jones Williams

Dw i'n gweld bod Chwilys ymlaen, liciwn fynd i weld honno gn bod cymaint wedi ei chanmol ac mae'n swnio fel y math o beth faswn i'n hoffi. Oes drama arall gan Aled Jones Williams hefyd, neu Chwilys ti'n feddwl?

Re: Edrych mlaen at Steddfod

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2010 10:03 pm
gan sian
Rhys a ddywedodd:Pryd mae rhaglen y steddfod yn dod allan fel arfer? Wedi dod o hyd i hwn ar y wefan.


Roedd 'na neges ar Facebook heddiw'n dweud bod y rhaglen yn y siopau. Da cael crynodeb ar y we hefyd.

Rhys a ddywedodd:
sian a ddywedodd:
Dwi am dreio gweld drama newydd Aled Jones Williams

Dw i'n gweld bod Chwilys ymlaen, liciwn fynd i weld honno gn bod cymaint wedi ei chanmol ac mae'n swnio fel y math o beth faswn i'n hoffi. Oes drama arall gan Aled Jones Williams hefyd, neu Chwilys ti'n feddwl?


Os dw i wedi deall yn iawn, maen nhw'n rhoi Chwilys a drama hollol newydd ymlaen ar yr un noson. Drama gymharol fyr yw Chwilys - ond mae 'na lot i gymryd i mewn ynddi. Dw i'n edrych ymlaen at ei gweld hi eto.

Re: Edrych mlaen at Steddfod

PostioPostiwyd: Mer 14 Gor 2010 10:19 am
gan Hedd Gwynfor
Falle bydd rhain o ddiddordeb hefyd?

Gwyl Amgen CYIG, Clwb Rygbi, Glyn Ebwy:
http://cymdeithas.org/2010/07/31/gwyl_a ... _2010.html

MaesB 2010, Eisteddfod Glyn Ebwy:
http://cymdeithas.org/2010/07/31/maesb_ ... _ebwy.html

Re: Edrych mlaen at Steddfod

PostioPostiwyd: Gwe 16 Gor 2010 12:51 pm
gan Hedd Gwynfor
Oes rhyw wefan yn mynd i gofnodi holl ddigwyddiadau swyddogol ac answyddogol y steddfod eleni, fel bod modd cymharu pob dim mewn un lle??

Re: Edrych mlaen at Steddfod

PostioPostiwyd: Gwe 16 Gor 2010 1:57 pm
gan ceribethlem
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Oes rhyw wefan yn mynd i gofnodi holl ddigwyddiadau swyddogol ac answyddogol y steddfod eleni, fel bod modd cymharu pob dim mewn un lle??

Maes-e? :winc:

Re: Edrych mlaen at Steddfod

PostioPostiwyd: Llun 19 Gor 2010 8:23 pm
gan Duw
ceribethlem a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Oes rhyw wefan yn mynd i gofnodi holl ddigwyddiadau swyddogol ac answyddogol y steddfod eleni, fel bod modd cymharu pob dim mewn un lle??

Maes-e? :winc:


Pam lai?

Re: Edrych mlaen at Steddfod

PostioPostiwyd: Mer 28 Gor 2010 3:00 pm
gan Hazel
Fydd "Y Cywydd Croeso" gan Robat Powell yn cael ei ddatgan yn yr Eisteddfod? Os felly, pryd?

Diolch.

Re: Edrych mlaen at Steddfod

PostioPostiwyd: Iau 29 Gor 2010 9:21 pm
gan osian
All rhywun ddeuthai os oes llefydd campio yn agos i'r steddfod (blaw maes b yn amlwg)?

Re: Edrych mlaen at Steddfod

PostioPostiwyd: Iau 29 Gor 2010 11:23 pm
gan Barry