Ydych chi'n edrych mlaen at rywbeth arbennig yn Steddfod leni?
Mae 'na gwpwl o nosweithiau addawol yn Maes C - yn arbennig:
Mynediad am Ddim nos Sadwrn; Ail Symudiad a Geraint Lovgreen, nos Fawrth.
Dwi am dreio gweld drama newydd Aled Jones Williams ac mae cyflwyniad Gareth Potter i'w weld yn ddiddorol.
Dw i newydd ffeindio rhaglen y Babell Lên - dyma rai o'r pethau sy'n apelio:
Sadwrn 31 Gorffennaf
13:00: Llên Gwerin Blaenau Gwent
Llun 2 Awst
12:00 Stori’r dydd: Annes Glynn
13:45 Darlith gan Sian Rhiannon
14:45 Bedwen Haf
Mawrth 3 Awst
10.00 Bedwen Haf
11:00 Y Wenwyseg - Mary Wiliam
15:45 Cofio Iwan Llwyd
Mercher 4 Awst
10:00 Cofio Dic Jones
11:00 Y Ddarlith Lenyddol - Peredur Lynch
13:45 Rhaglen Deyrnged i Dafydd Islwyn
Iau 5 Awst
11:00 Darlith Goffa Hywel Teifi Edwards
13:45 Cofio Hywel Teifi
15:45 Y beirdd ifanc
Sadwrn 7 Awst
09:00 Y Daith Lenyddol
Er bod dwy Babell y Cymdeithasau, sdim byd lawer i gyffroi amdano yn y naill na'r llall!
Dw i ddim yn siwr pwy sy'n darlithio yn sesiwn Cymdeithas Cyfieithwyr - mae honno'n ddifyr fel rheol
Mae Theatr Pena eto yn Theatr y Maes - wnes i fwynhau eu cyflwyniadau nhw llynedd
Rhywun arall yn gwybod am rywbeth difyr?