Tudalen 1 o 1

Cwrs Cyfle 'Defnydd a Cam-ddefnydd Delweddau Symudol' Medi 1

PostioPostiwyd: Llun 16 Awst 2010 9:44 am
gan RIB
Defnydd a Cam-ddefnydd Delweddau Symudol

Sesiwn prynhawn fydd hwn sy'n edrych ar y dulliau mae deunydd archif delwedd symudol yn cael ei ddefnyddio yn adeiladol mewn cynhyrchiadau newydd, yn ogystal a dangos esiamplau o sut mae deunydd wedi cael ei gam-ddefnyddio mewn cynhyrchiadau, y goblygiadau moesol a golygyddol.

DYDDIAD – cwrs ½ diwrnod, dydd Mercher 1af o Fedi (prynhawn)
LLEOLIAD – Yr Atrium (Ystafell Zen), Caerdydd
TIWTOR – Jerry Kuehl, Producer / Sue Malden, FOCAL International
COST - £25 + TAW

Pwy ddylai fynychu? –

Unrhywun sy'n gweithio yn y diwydiannau cyfryngau creadigol.

PEIDIWCH AG OEDI, SICRHEWCH EICH LLE DRWY GOFRESTRU NAWR!

Ebostiwch ni yn nodi eich diddordeb mewn mynychu i - catrin@cyfle.co.uk neu ffoniwch Catrin neu Shân ar 01286 685242

_____________________________

Oeddech chi'n gwybod? - Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs yma, mae'n bosib y byddwch hefyd a diddordeb mewn aros gyda ni ar gyfer sesiwn y prynhawn fydd yn ymdrîn â 'CYFRAITH HAWLFRAINT RHYNGWLADOL SY'N EFFEITHIO AR Y DIWYDIANT DELWEDDAU SYMUDOL' - CLICIWCH YMA am wybodaeth bellach - http://www.cyfle.co.uk/training-and-ski ... urses/2027

_____________________________


Ariannir y cwrs yma drwy Gronfa Sgiliau Ffilm Skillset*, S4C a TAC.

*Cefnogir Cronfa Sgiliau Ffilm Skillset gan y Loteri Genedlaethol drwy Cyngor Ffilm y DU a’r diwydiant ffilm drwy’r Gronfa Buddsoddi mewn Sgiliau.