Cwrs Cyfle 'Final Cut Pro i Olygyddion AVID' Medi a Tachwedd

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cwrs Cyfle 'Final Cut Pro i Olygyddion AVID' Medi a Tachwedd

Postiogan RIB » Llun 16 Awst 2010 9:48 am

Final Cut Pro i Olygyddion AVID

Bydd y mynychwyr yn defnyddio'r feddalwedd a'r caledwedd ddiweddaraf sy'n cynnwys pump iMac 21.5 modfedd, sgrîn lydan 16:9 newydd sbon a Final Cut Studio 3 - sy'n cynnwys Final Cut Pro 7, Motion 4, Soundtrack Pro 3, Color 1.5, Compressor 3.5 a DVD Studio Pro 4.

DYDDIADAU – dydd Llun 6ed a dydd Mawrth 7fed o Fedi
LLEOLIAD – Canolfan Hyfforddi CYFLE, Caerdydd
TIWTOR – Neil Sinclair, Hyfforddwr Apple Trwyddedig
COST - £450 + TAW (gall bod cymorth ariannol ar gael, holwch os oes diddordeb)

LLEFYDD YN BRIN - SICRHEWCH EICH LLE NAWR

PEDWAR DYDDIAD AR GAEL -

* 6+7 MEDI
* 18+19 HYDREF (FCP Sylfaenol)
* 8+9 TACHWEDD
* 29+30 TACHWEDD (FCP Sylfaenol)

COFRESTRWCH– catrin@cyfle.co.uk neu ffoniwch Catrin neu Shân ar 01286 685242

Gwybodaeth am y cwrs - http://www.cyfle.co.uk/training-and-ski ... urses/2031
RIB
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Mer 13 Ion 2010 12:23 pm

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron