HYFFORDDIANT CRAFFTER BUSNES A SGILIAU MENTER

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

HYFFORDDIANT CRAFFTER BUSNES A SGILIAU MENTER

Postiogan RIB » Maw 14 Medi 2010 2:33 pm

Cyrsiau Byrion CYFLE

HYFFORDDIANT CRAFFTER BUSNES A SGILIAU MENTER
‘SUT I GREU BRAND ADLONIANT TRAWS-GYFRYNGOL’

1+2 Rhagfyr 2010, Caerdydd

NIFER CYFYNGEDIG O LEFYDD SYDD AR GAEL – PEIDIWCH A METHU’R CYFLE UNIGRYW HWN!

Amlinelliad o’r Cwrs

Datblygwch eich sgiliau busnes a menter creadigol drwy ddysgu sut i ariannu, datblygu, cynhyrchu a dosbarthu cynnwys ar sawl llwyfan ar yr un pryd. Hyfforddiant hanfodol ar gyfer pobl llawrydd a staff cyflogedig sy’n gweithio ar draws y diwydiannau creadigol gan Nuno Bernardo a Triona Campbell, pobl broffesiynol llwyddiannus rhyngwladol sydd wedi ennill gwborau.

TIWTORIAID
Nuno Bernardo - http://www.bebo.com/sofiasdiary
Mae Nuno Bernardo yn ‘sgwennwr traws-gyfryngol sydd wedi ennill gwobrau ac wedi derbyn enwebiad Emmy. Ef oedd cynhyrchydd a chrewr Sofia’s Diary, sef y gyfres ar-lein rhyngwladol cyntaf o’i bath i bobl yn eu harddegau oedd yn arloesol yn ei gymysgedd o gyfryngau traddodiadol megis teledu, llyfrau a ffilm gyda cyfryngau newydd megis yr we a ffonau symudol. Yng Ngogledd America mae’n gynhyrchydd gweithredol ar gyfer cyfresi teledu oriau brîg, sy’n cynnwys The Weight gyda Linda Hamilton, a Living in Your Car, gafodd ei ddangosiad cyntaf yn ddiweddar ar HBO Canada ac a fydd yn cael ei ddarlledu yn y DU ar Sianel 5.

Triona Campbell – www.crfilms.net/
Triona Campbell yw sylfaenydd a cyfarwyddwr CR Entertainment Ltd. Gweithiodd fel pennaeth adran gyda’r cwmniau o Ganada, Mind’s Eye Pictures / Vertie Films ar The Incredible Story Studio, cyfres 52 rhan ar gyfer sianel Disney. Triona hefyd oedd cynhyrchydd cyfres Aisling’s Diary ar gyfer RTE a Sofia’s Diary ar gyfer Sony Pictures a Television International, yn ogystal a bod yn gynhyrchydd cyfres ar gyfer nifer o gyfresi adloniant ffeithiol ar-lein eraill. Hi oedd y cynhyrchydd cyntaf o’r tu allan i Ogledd America i ennill Gwobr mawreddog First Look Tribeca ar gyfer y ffilm nodwedd i blant The Crooked Mile (2001).

DYDDIADAU – 1+2 o Ragfyr 2010
LLEOLIAD – Canolfan Hyfforddi CYFLE, Caerdydd
COST – dau ddiwrnod am y pris isel o £150+TAW

Ydych chi neu eich gweithwyr yn raddedigion (diweddar neu beidio)? Os felly gallwch hawlio hyd at £1,500 tuag at gostau hyfforddiant gan Gronfa Hyfforddi a Datblygu Graddedigion GO Wales - CLICIWCH YMA AM FWY O WYBODAETH - http://www.gowales.co.uk/cy/employer/gtd/index.html


MWY O WYBODAETH AM Y CWRS - http://www.cyfle.co.uk/news


I SICRHAU LLE AR GWRS NEU I OFYN CWESTIWN CYSYLLTWCH Â –
caernarfon@cyfle.co.uk / 01286 685242


******

Ariannir y cwrs yma gan S4C, TAC ac Academi+ Skillset a cefnogir gan Skillset Cymru
RIB
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Mer 13 Ion 2010 12:23 pm

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron