Pam Gŵyl Nos?
Rydym ni'n mynd i aros allan drwy'r nos. Mae aelodau Cymdeithas yn effro i anghenion pobl sydd eisiau defnyddio'r Gymraeg. Rydym ni'n galw am statws swyddogol, hawliau a Chomisiynydd annibynnol yn y mesur newydd ac mae'r Llywodraeth wedi delifro 0.5 allan o 3.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cysgu. Dyna pam mae'r Mesur Iaith yn wan. Mae'n FESS HIR.
Yn lle dilyn arfer da gwledydd eraill a rhoi hawliau i ddinasyddion defnyddio'r Gymraeg a gwrando ar yr 80% o siaradwyr Cymraeg sydd eisiau hawliau (adroddiad Llais Defnyddwyr Cymru), maent wedi gwneud MESS HIR (136 tudalen) o'r mesur iaith Gymraeg.
Mae'r Llywodraeth yn rhoi y bai ar yr diffyg pwerau, eu partneriaid mewn clymblaid, cyfreithwyr...ond mae'r pwerau ganddyn nhw. Pam na allwn ni gamu mas o'r meddylfryd Prydeinig a gwneud rhywbeth positif ein hunain dros y Gymraeg?
Beth sy'n digwydd ar yr 21ain?
Mae'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, yn cyflwyno gwelliannau i drafft presennol y Mesur Iaith. Dyma ei gyfle olaf i wneud gwahaniaeth!!
DEWCH GYDA NI!
DEWCH I'N CEFNOGI YN YSTOD Y NOS NEU YN Y BORE - UNRHYW BRYD Y GALLWCH!
O 5PM YMLAEN AR FEDI'R 20FED.
Cysylltwch â menna@cymdeithas.org neu bethan@cymdeithas.org os chi angen lifft neu gydag unryw gwestiwn.
* adroddiad Llais Defnyddwyr Cymru: http://www.consumerfocus.org.uk/assets/ ... efnyddwyr-âr-laith-Gymraeg.pdf)