Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/10

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/10

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 15 Hyd 2010 6:50 pm

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/

Postiogan Geneth Ddu » Gwe 15 Hyd 2010 8:04 pm

Www, gwahanol a gwreiddiol iawn.

Beth am dderbyn yn aeddfed bod y toriadau'n mynd i gael effaith ar BAWB yn y DU, nid dim ond ni yng ngwlad y Victim Complex?

Mae'n siwr bydd pobl yn troi mas yn eu degau i gefnogi'r frwydr coll. Nos da S4C, bydda' i ddim yn gweld dy angen.
Geneth Ddu
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Llun 13 Awst 2007 3:19 pm

Re: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 16 Hyd 2010 10:21 am

Bydd y toriadau arfaethedig yn difa S4C, ac er gwaetha'r ffaith bod S4C yn bell iawn o fod yn berffaith, bydd ei cholli'n ergyd drom iawn i'r Gymraeg.

Ond ella 'sgen ti'm otsh am hynny, wn i ddim.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/

Postiogan Ray Diota » Sad 16 Hyd 2010 11:01 am

Geneth Ddu a ddywedodd:Beth am dderbyn yn aeddfed bod y toriadau'n mynd i gael effaith ar BAWB yn y DU, nid dim ond ni yng ngwlad y Victim Complex?


Cameron Learns Welsh Shocker!!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 21 Hyd 2010 12:29 pm

Fideo gan Angharad Mair yn hyrwyddo'r Rali



Neges gan Angharad Tomos at aelodau CYIG

Methu credu'r newyddion am S4C? Wedi cael llond bol yn barod ar y Con-Dems? Paid digalonni!

Yn y bôn, mae gennym ddau ddewis? rhoi'r ffidil yn y to ac eistedd yn ôl mewn anobaith llwyr, neu ymladd y toriadau.

Fe'i cawsom yn rhwydd iawn am ugain mlynedd a mwy. Bu'n gyfnod cyffrous, adeiladol gyda sefydlu'r Cynulliad a dadlau dros mwy o hawliau. Bellach, daeth y Toris yn ôl i rym, ac maent wedi mynd ati i weithredu polisiau eithafol sy'n mynd i fod yn ddinistriol i Gymru a'r iaith Gymraeg. Mae'n brifo mwy y tro hwn gan nad yw Cymru wedi ethol y Toriaid, ac eto, rydyn ni'n dioddef mwy na neb.

Nid oes raid derbyn y toriadau hyn. Mae dewis arall. Y banciau sydd wrth wraidd y llanast ariannol hwn, ac nid ni ddylai dalu am eu hawch am elw. Mae dewis arall ? codi trethi ar fanciau, cwmniau mawr a'r cyfoethog, a gwneud i'r ariannog dalu am y diffyg.

Nawr yw'r amser i ddatgan yn glir- DIM TORIADAU! Does dim rhaid inni beri dioddefaint i'r henoed, y gwan, y tlawd a'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae angen creu ffrynt unedig o bobl sy'n fodlion ymladd y toriadau hyn.

Rali Flynyddol / Cyfarfod Cyffredinol
Cymdeithas yr Iaith
Canolfan y Morlan Aberystwyth
Hydref 30 ain

Rali - Na i doriadau - Ie i S4C newydd
Hen Swyddfa Gymreig - Parc Cathays Caerdydd
Tachwedd 6 ed
11 y bora

Diolch
Angharad Tomos
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/

Postiogan Prysur » Iau 21 Hyd 2010 11:37 pm

Postar protest ta postar ar gyfer gig ydi hwn?
Hair Guest
Rhithffurf defnyddiwr
Prysur
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 36
Ymunwyd: Gwe 20 Mai 2005 9:02 am

Re: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/

Postiogan Josgin » Gwe 22 Hyd 2010 6:07 am

Angharad Tomos ????????
Wedi altro dipyn.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/

Postiogan Jon Sais » Gwe 22 Hyd 2010 7:15 am

Felly ydy'r amser wedi dod i ymestyn allan i fudiadau arall?
Mae'r mudiad anarchydd yn cynnal eu cyfarfod / cynhadledd flynyddol anferth yn Llundain ar Sadwrn 23-10-10. ( Gwelir www.anarchistbookfair.org.uk). Mae'r digwyddiad mewn gwirionedd mwy fel cynhadledd na dim byd arall, mi fydd John Pilger yn siarad yno a hefyd hen stagers fel Ian Bone Class War. Croeso i bawb gan gynnwys ambell Gymro alltud Llundain.

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Neges gan Angharad Tomos at aelodau CYIG:

Methu credu'r newyddion am S4C? Wedi cael llond bol yn barod ar y Con-Dems? Paid digalonni!

Yn y bôn, mae gennym ddau ddewis? rhoi'r ffidil yn y to ac eistedd yn ôl mewn anobaith llwyr, neu ymladd y toriadau.

Fe'i cawsom yn rhwydd iawn am ugain mlynedd a mwy. Bu'n gyfnod cyffrous, adeiladol gyda sefydlu'r Cynulliad a dadlau dros mwy o hawliau. Bellach, daeth y Toris yn ôl i rym, ac maent wedi mynd ati i weithredu polisiau eithafol sy'n mynd i fod yn ddinistriol i Gymru a'r iaith Gymraeg. Mae'n brifo mwy y tro hwn gan nad yw Cymru wedi ethol y Toriaid, ac eto, rydyn ni'n dioddef mwy na neb.

Nid oes raid derbyn y toriadau hyn. Mae dewis arall. Y banciau sydd wrth wraidd y llanast ariannol hwn, ac nid ni ddylai dalu am eu hawch am elw. Mae dewis arall ? codi trethi ar fanciau, cwmniau mawr a'r cyfoethog, a gwneud i'r ariannog dalu am y diffyg.

Nawr yw'r amser i ddatgan yn glir- DIM TORIADAU! Does dim rhaid inni beri dioddefaint i'r henoed, y gwan, y tlawd a'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae angen creu ffrynt unedig o bobl sy'n fodlion ymladd y toriadau hyn.

Rali Flynyddol / Cyfarfod Cyffredinol
Cymdeithas yr Iaith
Canolfan y Morlan Aberystwyth
Hydref 30 ain

Rali - Na i doriadau - Ie i S4C newydd
Hen Swyddfa Gymreig - Parc Cathays Caerdydd
Tachwedd 6 ed
11 y bora

Diolch
Angharad Tomos
Jon Sais
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Sul 21 Mai 2006 6:14 pm
Lleoliad: Swydd Derby

Re: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/

Postiogan Josgin » Gwe 22 Hyd 2010 7:32 am

Rhan o gwymp CIG oedd eu hawydd i ymestyn i fudiadau'r 'chwith' yn yr 80au. Cafodd CIG eu defnyddio gan fudiadau cryfach, mwy cyfrwys , gan wastraffu adnoddau a dim budd i'r iaith Gymraeg.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/

Postiogan Ray Diota » Gwe 22 Hyd 2010 7:55 am

Fydda i 'na, ond dwi ddim yn siwr bod Angharad Mair, rhywun sy 'di neud ffortiwn yn yn cynhyrchu rhaglenni cachu ers blynyddoedd yn ddewis delfrydol i siarad s4C newydd chwaith...

Gobitho neith y rali neud y pwynt bo 'da ni ddim diddordeb mewn cynnal y status quo. Bo ni moyn, angen, sianel Gymraeg - ond i fod yn hollol onest, ddim yr un s'da ni nawr.

Does dim rhaid inni beri dioddefaint i'r henoed, y gwan, y tlawd a'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.


Mmm. Stick to the point, ife? Beth yw'r rali 'ma, rali am S4C neu'r toriade yn gyffredinol?
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Nesaf

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron