Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/10
Postiwyd: Gwe 15 Hyd 2010 6:50 pm
Heb y barnu na'r cystadlu
https://maes-e.com/
Geneth Ddu a ddywedodd:Beth am dderbyn yn aeddfed bod y toriadau'n mynd i gael effaith ar BAWB yn y DU, nid dim ond ni yng ngwlad y Victim Complex?
Methu credu'r newyddion am S4C? Wedi cael llond bol yn barod ar y Con-Dems? Paid digalonni!
Yn y bôn, mae gennym ddau ddewis? rhoi'r ffidil yn y to ac eistedd yn ôl mewn anobaith llwyr, neu ymladd y toriadau.
Fe'i cawsom yn rhwydd iawn am ugain mlynedd a mwy. Bu'n gyfnod cyffrous, adeiladol gyda sefydlu'r Cynulliad a dadlau dros mwy o hawliau. Bellach, daeth y Toris yn ôl i rym, ac maent wedi mynd ati i weithredu polisiau eithafol sy'n mynd i fod yn ddinistriol i Gymru a'r iaith Gymraeg. Mae'n brifo mwy y tro hwn gan nad yw Cymru wedi ethol y Toriaid, ac eto, rydyn ni'n dioddef mwy na neb.
Nid oes raid derbyn y toriadau hyn. Mae dewis arall. Y banciau sydd wrth wraidd y llanast ariannol hwn, ac nid ni ddylai dalu am eu hawch am elw. Mae dewis arall ? codi trethi ar fanciau, cwmniau mawr a'r cyfoethog, a gwneud i'r ariannog dalu am y diffyg.
Nawr yw'r amser i ddatgan yn glir- DIM TORIADAU! Does dim rhaid inni beri dioddefaint i'r henoed, y gwan, y tlawd a'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae angen creu ffrynt unedig o bobl sy'n fodlion ymladd y toriadau hyn.
Rali Flynyddol / Cyfarfod Cyffredinol
Cymdeithas yr Iaith
Canolfan y Morlan Aberystwyth
Hydref 30 ain
Rali - Na i doriadau - Ie i S4C newydd
Hen Swyddfa Gymreig - Parc Cathays Caerdydd
Tachwedd 6 ed
11 y bora
Diolch
Angharad Tomos
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Neges gan Angharad Tomos at aelodau CYIG:Methu credu'r newyddion am S4C? Wedi cael llond bol yn barod ar y Con-Dems? Paid digalonni!
Yn y bôn, mae gennym ddau ddewis? rhoi'r ffidil yn y to ac eistedd yn ôl mewn anobaith llwyr, neu ymladd y toriadau.
Fe'i cawsom yn rhwydd iawn am ugain mlynedd a mwy. Bu'n gyfnod cyffrous, adeiladol gyda sefydlu'r Cynulliad a dadlau dros mwy o hawliau. Bellach, daeth y Toris yn ôl i rym, ac maent wedi mynd ati i weithredu polisiau eithafol sy'n mynd i fod yn ddinistriol i Gymru a'r iaith Gymraeg. Mae'n brifo mwy y tro hwn gan nad yw Cymru wedi ethol y Toriaid, ac eto, rydyn ni'n dioddef mwy na neb.
Nid oes raid derbyn y toriadau hyn. Mae dewis arall. Y banciau sydd wrth wraidd y llanast ariannol hwn, ac nid ni ddylai dalu am eu hawch am elw. Mae dewis arall ? codi trethi ar fanciau, cwmniau mawr a'r cyfoethog, a gwneud i'r ariannog dalu am y diffyg.
Nawr yw'r amser i ddatgan yn glir- DIM TORIADAU! Does dim rhaid inni beri dioddefaint i'r henoed, y gwan, y tlawd a'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae angen creu ffrynt unedig o bobl sy'n fodlion ymladd y toriadau hyn.
Rali Flynyddol / Cyfarfod Cyffredinol
Cymdeithas yr Iaith
Canolfan y Morlan Aberystwyth
Hydref 30 ain
Rali - Na i doriadau - Ie i S4C newydd
Hen Swyddfa Gymreig - Parc Cathays Caerdydd
Tachwedd 6 ed
11 y bora
Diolch
Angharad Tomos
Does dim rhaid inni beri dioddefaint i'r henoed, y gwan, y tlawd a'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.