Tudalen 2 o 2

Re: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/

PostioPostiwyd: Gwe 22 Hyd 2010 7:59 am
gan Jon Sais
Ond onid gwir i ddweud 'Nerth mewn undeb'? Mae gan GIG a Chymry nifer sylweddol o gyfeillion ar ochr draw i Glawdd Offa, mae angen mwy na lond ddwrn o Gymry / aelodau CIG i atal y toriadau a'r ConDems.

Josgin a ddywedodd:Rhan o gwymp CIG oedd eu hawydd i ymestyn i fudiadau'r 'chwith' yn yr 80au. Cafodd CIG eu defnyddio gan fudiadau cryfach, mwy cyfrwys , gan wastraffu adnoddau a dim budd i'r iaith Gymraeg.

Re: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/

PostioPostiwyd: Gwe 22 Hyd 2010 9:02 am
gan Hedd Gwynfor
Ray Diota a ddywedodd:Fydda i 'na, ond dwi ddim yn siwr bod Angharad Mair, rhywun sy 'di neud ffortiwn yn yn cynhyrchu rhaglenni cachu ers blynyddoedd yn ddewis delfrydol i siarad s4C newydd chwaith...

Gobitho neith y rali neud y pwynt bo 'da ni ddim diddordeb mewn cynnal y status quo. Bo ni moyn, angen, sianel Gymraeg - ond i fod yn hollol onest, ddim yr un s'da ni nawr.


Bydd y pwynt yma yn cael ei wneud yn glir iawn yn y Rali, ac mae'n bwynt mor bwysig mae'n rhan o'r teitl! O ran y Fideo, un cyntaf mewn cyfres gobeithio, gan bobl amlwg yn ogystal a gwylwyr a chefnogwyr eraill yn hyrwyddo'r Rali yw hon. Os hoffech chi wneud fideo, plis cysylltwch da fi. Bydde hynny'n gret.

Ray Diota a ddywedodd:
Does dim rhaid inni beri dioddefaint i'r henoed, y gwan, y tlawd a'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.


Mmm. Stick to the point, ife? Beth yw'r rali 'ma, rali am S4C neu'r toriade yn gyffredinol?



Mae'r Gymdeithas yn erbyn y toriadau yn gyffredinol, ond yn benodol y toriadau sy'n effeithio'n fwy uniongyrchol ar y Gymraeg wrth gwrs. Mae'r holl doriadau yma yn mynd i danseilio ein cymunedau, ac heb gymunedau cryf nid oes gobaith i'r Gymraeg.

Josgin a ddywedodd:Angharad Tomos ????????
Wedi altro dipyn.


Sori, odd e ddim yn glir. Angharad Mair sydd yn y fideo yn amlwg, y neges islaw sy'n dod gan Angharad Tomos!! Wedi golygu'r neges blaenorol i wneud hyn yn glir.

Re: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/

PostioPostiwyd: Gwe 22 Hyd 2010 9:09 am
gan Hedd Gwynfor
Dyma fideo gan Dan Rhys o'r UDA hefyd yn cefnogi S4C:


Re: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/

PostioPostiwyd: Iau 28 Hyd 2010 2:52 pm
gan Hedd Gwynfor

Re: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/

PostioPostiwyd: Iau 28 Hyd 2010 2:54 pm
gan Hedd Gwynfor
Delwedd

Mae'r mudiadau canlynol wedi datgan eu cefnogaeth i'r Rali, ni'n aros i glywed oddi wrth sawl un arall hefyd: Mentrau Iaith Cymru, Menter Caerdydd, Merched y Wawr, Rhag, Yr Urdd, Cyfeillion y Ddaear, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Cymdeithas y Cymod, Cymuned, BECTU, UCAC, UMCA, Eisteddfod Genedlaethol.

Re: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/

PostioPostiwyd: Llun 01 Tach 2010 11:46 pm
gan Hedd Gwynfor
Paul Flynn AS hefyd yn siarad yn y Rali nawr gyda Ieuan Wyn Jones AC, Angharad Mair, Menna Machreth a David Donovan (BECTU).

Hefyd bydd adloniant gan Ryland Teifi, MC Saizmundo, Ty Gwydr a Cor Godre'r Garth.

Re: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd, 06/11/

PostioPostiwyd: Mer 10 Tach 2010 9:00 pm
gan Hedd Gwynfor
Dyma rhai fideos o'r rali:









Un arall yma gan y Western Mail - http://cymdeithas.org/2010/11/07/fideo_ ... _mail.html

Lot o luniau yma: http://cymdeithas.org/2010/11/06/rali_s ... y_byd.html