Tudalen 1 o 1

Iwan ar Daith - nosweithiau'r De

PostioPostiwyd: Llun 01 Tach 2010 3:08 pm
gan løvgreen
Wedi naw noson lwyddiannus yng ngogledd a chanolbarth Cymru yn ystod Medi a Hydref, mae criw o feirdd a chantorion yn cynnwys Mei Mac, Ifor ap Glyn, Geraint Lovgreen, Twm Morys a Myrddin ap Dafydd yn ymweld â phedair canolfan a dwy ysgol uwchradd yn ne Cymru yn ystod mis Tachwedd i gyflwyno sioe yn llawn caneuon, straeon, atgofion doniol a cherddi coffa wrth gofio am Iwan Llwyd.

Iwan, ar Daith

Canolfan Tyˆ Tawe, Abertawe
Nos Iau, 4 Tachwedd am 7.30 o’r gloch
Tocynnau: £7 (01792) 460906


Clwb y Diwc, Treganna, Caerdydd
Nos Wener, 5 Tachwedd, 8:00o’r gloch
Tocynnau: £7 (02920 222197)

Gwesty’r Marîn, Aberystwyth
Nos Iau, 18 Tachwedd, 7.30 o’r gloch
Tocynnau £5 (01970 832906)

Gwesty’r Emlyn, Tan-y-groes
Nos Wener, 19 Tachwedd am 7.30 yh
01239 654302

Re: Iwan ar Daith - nosweithiau'r De

PostioPostiwyd: Maw 02 Tach 2010 9:52 am
gan Gwen
Mae'n bosib y bydda i'n dwad i ddwy o'r rhain! Edrych ymlaen.

Re: Iwan ar Daith - nosweithiau'r De

PostioPostiwyd: Maw 02 Tach 2010 12:42 pm
gan løvgreen
Ty Tawe - Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn, Geraint Lovgreen ac Owen Owens gyda Aneirin Karadog ac Emyr Lewis

Y Diwc - Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn, Geraint Lovgreen ac Owen Owens gyda Rhys Iorwerth, Ynyr Williams a'r Bobs

Aberystwyth - Myrddin ap Dafydd, Twm Morys, Mei Mac, Geraint Lovgreen, Owen Owens ac Edwin Humphreys gyda Dafydd John Pritchard

Tan-y-Groes - Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn, Twm Morys, Mei Mac, Geraint Lovgreen, Owen Owens ac Edwin Humphreys ...

Re: Iwan ar Daith - nosweithiau'r De

PostioPostiwyd: Gwe 12 Tach 2010 11:30 am
gan løvgreen
Noson Tan-y-groes -

Noson ola'r daith lwyddiannus er cof am ein cyfaill Iwan Llwyd, gyda Myrddin ap Dafydd, Twm Morys, Ifor ap Glyn, Geraint Lovgreen ac efallai ambell un o'r gwesteion arbennig sydd wedi gwneud cyfraniadau mor gofiadwy i wahanol nosweithiau ar y daith, a'r gwesteion arbennig am y noson ola - Richard a Wyn AIL SYMUDIAD!

Dewch yn llu - hwn ydi'r ola go iawn.

Tocynnau £5 (01239 654302)