Tudalen 1 o 1

Cyfarfod Cyhoeddus Achub S4C

PostioPostiwyd: Iau 18 Tach 2010 12:09 am
gan MELOG
Mae bodolaeth S4C yn y fantol, dewch i'r cyfarfod yma Ym Mhrifysgol Caerdydd nos fercher y 24eg, am 7.30 ystafell 2.10 adeilad y Dyniaethau i achub unig sianel Gymraeg y byd.

Siaradwyr: Dr Simon Brooks ac eraill i'w cadarnhau.

Gall y ddedf a ganieteir i’r Toriaid diddymu S4C gael ei basio yn yr WYTHNOSAU nesaf.
...
Mae’r sefyllfa’n ddifrifol ac mae wir angen gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr arnom. Dewch i drafod ein ymgyrch ac i gael gweld be allech ei wneud i achub y sianel brwydrodd y cenhedlaeth gynt mor galed drosto.

Mae angen gwirfoddolwyr arnom i ddosbarthu ffurfleni 'gwrthod talu y trwydded deledu', mae hefyd angen pobol i ddod i'r swyddfa i ffonio pobol i ofyn wrthyn nhw wrthod talu'r drwydded mewn protest (cewch sgript iw ddilyn i wneud hyn).

Yn fwy na dim mae angen i fobol ymrwymo i beidio talu eu trwyddedi teledu a dweud wrthom fel cawn ddangos i'r Toriaid ein bod o ddifri am achub S4C. Os hoffwch cael eich ychwanegu ar y rhestr o'r rhai sydd yn gwrthod talu eu trwydded teledu (o Ragfyr y 1af) gyrrwch neges atom er mwyn i chi cael bod ar yr rhestr byddwn yn cyflwyno i'r llywodraeth- (mae rhoi eich enw i ni yn hollbwysig)

Yr um hefyd eisiau clywed eich syniadau chi, lle ddylai'r ymgyrch fynd nesaf? Beth hoffech weld yn digwydd? Dewch gyda'ch syniadau!


Mae'r cyfarfod yma wedi ei gefnogi gan:
Y GYM GYM
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd
Cell Prifysgol Caerdydd Cymdeithas yr Iaith GymraegGweld Mwy