Tudalen 1 o 1

Taith S4C a'r Dyfodol-Trwy Gymru-Ionawr, Chwefror a Mawrth

PostioPostiwyd: Llun 17 Ion 2011 12:09 am
gan MELOG
Mae bodolaeth S4C yn y fantol, ac mae Cymdeithas yr Iaith felly wedi trefnu cyfres o gyfarfodydd trwy Gymru i drafod yr ymgyrch 'Na i Doriadau - Ie i S4C Newydd' ac i gael gweld be gallwn ni ei wneud i achub y sianel brwydrodd y cenhedlaeth gynt mor galed drosto. Hoffwn glywed eich syniadau chi. Lle ddylai'r ymgyrch fynd nesaf? Beth hoffech weld yn digwydd? Plis gwnewch yr ymdrech i ddod i o leiaf un o'r cyfarfodydd, mae angen ...mewnbwn cymaint a phosibl o bobl.

Dyma'r cyfarfodydd sydd wedi eu trefnu hyd yma. Bydd mwy yn cael eu cyhoeddi yn fuan...

7.30pm, Nos Iau Ionawr 27 - Canolfan Morlan Aberystwyth
Siaradwyr: Ned Thomas, Rhodri Ap Dyfrig a Huw Lewis

7pm, Nos Iau Ionawr 27ain - Gwesty'r Eagles Llanrwst
Siaradwyr: Gareth Jones AC, Daloni Metcalfe, Glyn Jones

7pm, Nos Lun 31ain Ionawr - Ty Tawe, Abertawe
Siaradwyr: Heini Gruffudd, Manon Eames, Bethan Williams, Roger Williams

7pm, Nos Lun 1 Chwefror - Duke of Clarence, Treganna, Caerdydd
Siaradwyr: Angharad Mair, Dr Simon Brooks, Morgan Hopkins

7pm, Nos Fercher, 2il Chwefror - Boar's Head (lan lofft), Caerfyrddin
Siaradwyr: Angharad Mair, Peter Hughes Griffiths a Ffred Ffransis

7pm, Nos Iau, 3ydd Chwefror - Lolfa y Theatr, Felinfach
Siaradwyr: Euros Lewis, Ifan Gruffydd a Bethan Williams

7pm, Nos Lun, Chwefror 7ed - Clwb y Bont, Pontypridd
Siaradwyr: Kevin Davies, Gareth Miles

7.30yh, Nos Iau, Chwefror 10fed – White Heart, Llandeilo
Siaradwyr: Jonathan Edwards AS, Heledd Cynwal, Randal Isaac, Bethan Williams

7pm, Nos Iau Chwefror 17eg - Y Stiwt Rhosllanerchrugog
Susan Elan Jones AS ac eraill

7pm, Nos Fercher Chwefror 23ain - Neuadd Ogwen, Bethesda
Siaradwyr: Ieu Wyn, John Ogwen a Meirion Roberts

7.30pm, Nos Iau Mawrth 10 fed - Neuadd Talwrn, Talwrn, Ynys Món
Manylion llawn i ddilyn

12.30pm, Dydd Sadwrn Mawrth 12fed - Neuadd Goffa, Sarn Mellteyrn
Anni Llyn ac eraill

(MAE HWN ODDI AR Y GRWP FACEBOOK)