MAE CYFLE NAWR YN DERBYN CEISIADAU AR GYFER CYNLLUN HYFFORDDI NEWYDD
DELTA DIGIDOL
Un cynllun hyfforddi rhan-amser – dwy gainc
Yn mynd â chi i’r lefel nesaf yn y diwydiannau cyfryngau creadigol
‘SGWENNWR AML-LWYFAN
Os ydych chi’n ‘sgwennwr creadigol sy’n byrlymu â syniadau ac yn chwilio am ffordd i fewn i’r diwydiant cyfryngau cyfredol, bydd y cynllun hwn yn berffaith i chi.
GWEITHIWR DIGIDOL (yn eisiau – pobl creadigol!)
R’yn ni’n edrych am unigolion creadigol, talentog, a penderfynol sy’n gobeithio rhoi eu stamp ar ddiwydiant cyfryngau heddiw – Diddordeb?
‘Roedd cwrs Cyfle wedi fy helpu i ddatblygu dealltwriaeth dda o brosiectau aml-lwyfan, ac roedd yn gyfle gwych i gael cysylltiadau yn y diwydiant wnaeth arwain yn uniongyrchol at gael cynnig fy swydd bresennol ddim ond wythnosau wedi gorffen y cwrs.’ Anna Ellis, Cyn-hyfforddai Aml-lwyfan Cyfle
***********
• Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 12 y prynhawn, 1af o Chwefror 2011
• Cynhelir cyfweliadau rhwng y 9fed – 18fed o Chwefror 2011
• Dyddiad dechrau’r cynllun: 18fed o Fawrth 2011
***********
Pecyn Gwybodaeth ac Ymgeisio - http://www.cyfle.co.uk/news/2248?diablo.lang=cym
**********
Mae Cyfle yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir
Ariannir y cynllun hwn gan Gronfa Llawrydd Teledu Skillset, S4C, TAC, a cefnogir gan Skillset â’r ATRiuM