Tudalen 1 o 1

YN EISIAU CEISIADAU GAN BOBL GREADIGOL A 'SGWENNWYR

PostioPostiwyd: Maw 18 Ion 2011 3:46 pm
gan RIB
MAE CYFLE NAWR YN DERBYN CEISIADAU AR GYFER CYNLLUN HYFFORDDI NEWYDD

DELTA DIGIDOL


Un cynllun hyfforddi rhan-amser – dwy gainc
Yn mynd â chi i’r lefel nesaf yn y diwydiannau cyfryngau creadigol

‘SGWENNWR AML-LWYFAN
Os ydych chi’n ‘sgwennwr creadigol sy’n byrlymu â syniadau ac yn chwilio am ffordd i fewn i’r diwydiant cyfryngau cyfredol, bydd y cynllun hwn yn berffaith i chi.

GWEITHIWR DIGIDOL (yn eisiau – pobl creadigol!)

R’yn ni’n edrych am unigolion creadigol, talentog, a penderfynol sy’n gobeithio rhoi eu stamp ar ddiwydiant cyfryngau heddiw – Diddordeb?

‘Roedd cwrs Cyfle wedi fy helpu i ddatblygu dealltwriaeth dda o brosiectau aml-lwyfan, ac roedd yn gyfle gwych i gael cysylltiadau yn y diwydiant wnaeth arwain yn uniongyrchol at gael cynnig fy swydd bresennol ddim ond wythnosau wedi gorffen y cwrs.’ Anna Ellis, Cyn-hyfforddai Aml-lwyfan Cyfle

***********

• Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 12 y prynhawn, 1af o Chwefror 2011

• Cynhelir cyfweliadau rhwng y 9fed – 18fed o Chwefror 2011
• Dyddiad dechrau’r cynllun: 18fed o Fawrth 2011

***********

Pecyn Gwybodaeth ac Ymgeisio - http://www.cyfle.co.uk/news/2248?diablo.lang=cym

**********
Mae Cyfle yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir

Ariannir y cynllun hwn gan Gronfa Llawrydd Teledu Skillset, S4C, TAC, a cefnogir gan Skillset â’r ATRiuM

Re: YN EISIAU CEISIADAU GAN BOBL GREADIGOL A 'SGWENNWYR

PostioPostiwyd: Iau 20 Ion 2011 3:04 pm
gan SerenSiwenna
Hmm,
Roedd hyn yn edrych yn wych nes i mi fynd ar y wefan a darllen fod angen 1 flwyddyn o sgwennu creadigol cyflogedig cyn cael eich derbyn...swn i yn deuc eich bod wedi llwyddo "torri mewn" i'r sin yn barod os oes rhywun yn rhoi tal i chi am eich gwaith... :?

Re: YN EISIAU CEISIADAU GAN BOBL GREADIGOL A 'SGWENNWYR

PostioPostiwyd: Iau 20 Ion 2011 5:44 pm
gan Ray Diota
SerenSiwenna a ddywedodd:Hmm,
Roedd hyn yn edrych yn wych nes i mi fynd ar y wefan a darllen fod angen 1 flwyddyn o sgwennu creadigol cyflogedig cyn cael eich derbyn...swn i yn deuc eich bod wedi llwyddo "torri mewn" i'r sin yn barod os oes rhywun yn rhoi tal i chi am eich gwaith... :?


Dyw e ddim yn gweud yr un peth yn Saesneg

some form of paid experience within the creative writing world, be it for TV, Radio, Theatre, Film, Games and so on

Re: YN EISIAU CEISIADAU GAN BOBL GREADIGOL A 'SGWENNWYR

PostioPostiwyd: Sul 30 Ion 2011 2:31 pm
gan SerenSiwenna
Doh, sgen i ddim hynna chwaith...stwff gwirfoddol a blog sy gen i yn bennaf, er, mi ges i tal ar gyfer fy cerddi yn 'Tu Chwith' ond dwi'm yn meddwl fod hynna'n cyfri! :lol: