Tudalen 1 o 1

Sialens ddwyieithog - Bangor - 14-16 Chwefror 2011

PostioPostiwyd: Llun 07 Chw 2011 12:05 pm
gan marikafusser
Ydych chi'n siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl? Beth am roi cynnig ar ein sialens ddwyieithog?
Rydyn ni'n cynnal cyfres o arbrofion lle mae parau o bobl yn cystadlu yn erbyn eu gilydd i ennill bocs o siocled. Ar ben hynny bydd pawb yn cael £5 am gymryd rhan.
Pwy geith gystadlu? Parau o bobl rhwng 18 a 30 oed sy'n siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl.
Dyna beth fydd eisiau i chi wneud: (a) tasg lle mae gofyn i ddau o bobl gydweithio er mwyn cyrraedd y nod - a'r pâr mwya sydyn o bawb yn cael bocs o siocled; (b) tasg gwrando ac ymateb.
Bydd gofyn i chi ddod i'r Ganolfan Ddwyieithrwydd ym Mangor Uchaf a dod ag awr o amser. Dyma'r slotiau sy ar gael yr wythnos nesa:

LLUN, 14 CHWEFROR
6-7pm

MAWRTH, 15 CHWEFROR
9-10am
10.30-11.30am
12-1pm
1.30-2.30pm
3-4pm
4.30-5.30pm
6-7pm

MERCHER, 16 CHWEFROR
9-10am
10.30-11.30am

Os nad oedd yr un o'r amseroedd uchod yn siwtio chi, peidiwch a digalonni - mi fydd 'na rownd arall o arbrofion :)
I gofrestru, neu i gael eich cadw yn y loop, cysylltwch â Marika Fusser neu M. Carmen Parafita Couto yng Nghanolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd:
ffôn: 01248-388576 neu 388574;
e-bost: m.fusser@bangor.ac.uk

Re: Sialens ddwyieithog - Bangor - 14-16 Chwefror 2011

PostioPostiwyd: Llun 07 Chw 2011 1:21 pm
gan Josgin
Dyna drueni na fuasai'r mwyafrif llethol o ddarlithwyr a myfyrwyr y brifysgol, gan gynnwys y prifathro, yn gallu bod o gymorth i chi.