Tudalen 1 o 1

Gweithdy heddwch 27/02/11 Porthmadog

PostioPostiwyd: Llun 14 Chw 2011 9:52 pm
gan Cymdeithas y Cymod
Sul, 27 Chwefror, 7yh, Canolfan Porthmadog: Gweithdy heddwch gyda Chris Cole o Figtree. Wrth i ryfel gael ei baratoi dros ein pennau ac ar dir mor agos inni, sut dyliwn ymateb? Cyfle i glywed y ffeithiau am yr awyrennau di-beilot ('drĂ´ns') a gaiff eu harbrofi rhwng Aberporth yng Ngheredigion a Mynydd Epynt ym Mhowys. Byddwn, fel dinasyddion, ystyried sut i ymateb mewn ffordd effeithiol i fynegi ein gwrthwynebiad mewn modd ddi-drais. Trefnir gan Gell Dwyryd a Glaslyn o Gymdeithas y Cymod. Croeso i bawb. Manylion: 01766-523794; cymdeithasycymod@btinternet.com.