Tudalen 1 o 1

Rhyfel gyda Robotiaid - sgwrs 28/02/11 Caernarfon

PostioPostiwyd: Llun 14 Chw 2011 9:53 pm
gan Cymdeithas y Cymod
Llun, 28 Chwefror, 7.30pm, festri capel Salem, Caernarfon: Rhyfel gyda Robotiaid - sgwrs gan Chris Cole am awyrennau di-beilot ('drôns'). Mi oedd hyn yn arfer perthyn i fyd science fiction: drôns a reolir o bell yn gollwng bomiau ar dargedau filoedd o filltiroedd i ffwrdd. Bellach mae'n digwydd bron bob dydd ac mae fel petai wedi dod yn hoff fethod o ymosod gan luoedd yr Unol Daleithiau a Phrydain. Ond mae un agwedd ar ryfela sy heb newid. Yn ôl think-tank y Brooking Institution, am bob 'milwriaethwr' sy'n cael ei ladd gan ddrôn caiff o leiaf 10 o bobl gyffredin eu lladd hefyd. Bydd Chris Cole, Cydlynydd mudiad heddwch Cristnogol Figtree, yn siarad am ei ymchwil ar y drôns yn ogystal â'r ymgyrch yn eu herbyn. Trefnir gan Grŵp Heddwch a Chyfiawnder Arfon ar y cyd â Chymdeithas y Cymod. Croeso i bawb. Manylion: 01286-830913; cymdeithasycymod@btinternet.com.