Tudalen 1 o 2

Gwyneb Newydd Owain Glyndwr

PostioPostiwyd: Gwe 18 Chw 2011 4:35 pm
gan Barti Ddu arall
Da chi di clywad bod rhaglen yn dangos gwyneb Owain Glyndwr - WOW - edrych mlaen i weld o....
Dymar You Tube
http://www.youtube.com/watch?v=IVFdZ_ALYhU

Re: Gwyneb Newydd Owain Glyndwr

PostioPostiwyd: Gwe 18 Chw 2011 5:00 pm
gan Mali
Diddorol ....edrychaf ymlaen !

Re: Gwyneb Newydd Owain Glyndwr

PostioPostiwyd: Sul 20 Chw 2011 5:15 pm
gan Hazel
Maen' nhw'n ryfeddol! Y gorau oll! Diolch yn fawr, Barti, am yr wybodaeth.

Re: Gwyneb Newydd Owain Glyndwr

PostioPostiwyd: Sul 20 Chw 2011 7:39 pm
gan Duw
Un o'r unig rhaglenni'n ddiweddar rwyf yn edrych ymlaen iddi. Ffili aros. :winc:

Re: Gwyneb Newydd Owain Glyndwr

PostioPostiwyd: Mer 02 Maw 2011 8:28 am
gan Gwen
Wel, am lol.

On i'n synnu bod rhai ohonoch chi'n disgwyl iddi fod yn dda a bod yn onest, ond roedd hi'n llawer gwaeth nag on i wedi feddwl hyd yn oed. Dim rhyfedd nad oedd 'na'r un hanesydd yn fodlon cael ei gysylltu efo hi. Roedd hynny'n boenus o amlwg - run cyfraniad gen run arbenigwr, am awr gyfan.

Wedi deud hynny, dwi'n clywed bod fy nain (sy'n 93) wedi aros ar ei thraed oria'n hwyrach nag arfer ac wedi bod yn ffonio Mam nôl ac ymlaen wedi ecseitio'n lân! Dwn i'm ai hefo'r dechnoleg ta be.

Re: Gwyneb Newydd Owain Glyndwr

PostioPostiwyd: Mer 02 Maw 2011 4:27 pm
gan Tail Neis
Minnau hefyd. Roedd y teitl yn dweud popeth; does dim gair "gwyneb" yn y Gymraeg - "wyneb" ydy o. Be aflwydd ydy'r ots sut wyneb oedd gan y dyn, sut bynnag? Fedrwn i ddiodde' dim mwy wedi pum munud, ac mi ddiffoddais y teledu. Felly does gen i ddim hawl i drafod gweddill y rhaglen, a diolch am hynny!

Re: Gwyneb Newydd Owain Glyndwr

PostioPostiwyd: Mer 02 Maw 2011 6:05 pm
gan Hogyn o Rachub
Teitl y rhaglen oedd Wyneb Glyndwr, nid Gwyneb Glyndwr ... nesdi'n cymryd lot o sylw felly, os gwnest ti ei gwylio hi o gwbl!

Ta waeth, dwi'n meddwl y buasai wedi gallu bod yn rhaglen ddiddorol - ro'n i'n licio'r syniad. Ond ar y cyfan doedd hi ddim. Y peth gwaetha i fi oedd bod JLJ (sef adroddwr y rhaglen hefyd nath ei hadrodd hi yn od, rhywsut) wedi mynd i Fachynlleth, a wedyn Corwen, a'r ddau dro doedd "dim cliwiau yno" so be oedd y blydi pwynt mynd o gwbl heblaw am wastio amser?? Siomedig.

Re: Gwyneb Newydd Owain Glyndwr

PostioPostiwyd: Mer 02 Maw 2011 6:34 pm
gan Hazel
Roedd rhai ohonon ni'n ei hoffi hi. I bob ei hun. O rhan "gwyneb", rydyn ni i gyd yn gwneud camgymeriadau. Does neb sy'n berffaith.

Re: Gwyneb Newydd Owain Glyndwr

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 12:00 am
gan Duw
Wedi dechrau ei wylio ar Clic. Dwi ddim yn gwybod os allai orffen, mae llais y cyflwynydd yn mynd ar fy blydi pips. Ar y dechre - gosod llais dwfn dramatig ymlaen - swnio fel coc oen. JLJ - erieoed wedi clywed amdano. Ham 'n' eggs? :rolio:

Re: Gwyneb Newydd Owain Glyndwr

PostioPostiwyd: Gwe 11 Maw 2011 4:22 am
gan Hen Rech Flin
Un o'r pethau oedd yn mynd dan fy nghroen yn y rhaglen oedd enwi'r hen ddyn yn y llun fel John of Kent - nage Siôn Caint oedd ei enw yn ei gyfnod!

Llangaint oedd enw Kentchurch yn y 15 ganrif, megis yr oedd Peterstow yn Llanbedr a Bridstow yn Llansanffraid.

Os mae ffugenw Glyndŵr ydoedd neu nac ydoedd Siôn Caint oedd enw'r Cymro dan sylw, nid John of Kent, ffor ff.. sec!