Lobi Mawr Achub S4C

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Lobi Mawr Achub S4C

Postiogan MELOG » Iau 10 Maw 2011 11:36 pm

Dydd Mercher, Mawrth 30 · 12:00yh - 3:00yh

--------------------------------------------------------------------------------

Lleoliad San Steffan, Llundain / Westminster, London

--------------------------------------------------------------------------------

Mwy o Wybodaeth Dewch i Lundain i ddangos fod pobl Cymru yn dweud NA! i'r cynlluniau i ladd yr unig sianel Gymraeg yn y byd!

Come to London to show the Tory/Lib-Dem Government that the people of Wales say NO! to their plans to kill our only Welsh language channel.

---------------------------------------------------
Byddwn yn cynnal cyfarfod mawr er mwyn rhoi pwysau ar aelod seneddol i wrthod y cynlluniau ar gyfer S4C, ac yn cyflwyno deiseb. Bydd angen un person o bob etholaeth o Gymru (a thu hwnt os oes modd) i ofyn i gwrdd a'u haelod senedd er mwyn sicrhau y bydd pob un o Gymru yno - cysylltwch ar unwaith os gallwch wneud hyn (post@cymdeithas.org / 01970 624501)


Os hoffech chi ddod, beth am archebu lle i chi a'ch ffrindiau ar y tren neu fws i Lundain? Neu beth am drefnu bws neu fws-mini o'ch ardal chi. Ebostiwch post@cymdeithas.org neu ffoniwch 01970 624501 er mwyn cadarnhau eich bod yn dod neu er mwyn cael gafael ar griw arall er mwyn teithio gyda nhw i Lundain.

Gallwch gysylltu a swyddogion y Gymdeithas drwy'r manylion ar ein gwefan http://cymdeithas.org/cyswllt/
'Marw i fyw mae'r haf -o hyd, gwell wyf o'i golli hefyd!' - ploncar
MELOG
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Maw 26 Hyd 2010 10:15 pm



Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai