Eco Panto
Ebrill 21 – Mai 2 2011
Caerdroia, Coedwig Gwydyr, Llanrwst
Ie, panto – ond un go anghyffredin!
Y tro yma mae’r Panto wedi troi’n wyrdd a’i wreiddiau’n ddwfn ym mhridd y goedwig.
Sioe wedi ei saernïo’n grefftus, yn llawn hwyl a sbri’r Pantomeim gyda deunyddiau wedi eu hailgylchu. Perfformiadau rhyngweithiol, gweithiau celf, cerddoriaeth a llawer, llawer mwy.
Bydd yno artistiaid proffesiynol a gwirfoddolwyr o Gymru, gwledydd eraill Prydain a chyfandir Ewrop yn ailddiffinio atgofion, hanesion a chymeriadau un o’n traddodiadau mwyaf hynod. Sêr y noson fydd y Rhiain Gwsg, y Ddewines Garedig a’r Ŵydd Aur.
Perfformiadau rheolaidd rhwng 4yh a 8yh
Tocynnau
Oedolion £12
Plant £8
Grŵp (5) £45
Menter Iaith Conwy
01492 642357
Mae’n rhaid prynu tocyn o flaen llaw
Gwybodaeth pellach
www.cynefin.org
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Cofiwch fod y sioe yn digwydd yn yr awyr agored ac mi fydd hi’n dywyll, felly:
Dewch â thortsh efo chi.
Bydd y gynulleidfa yn dilyn llwybr milltir o hyd drwy’r goedwig gyda rhannau ohoni’n serth
Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas.
Dydi’r llwybr ddim yn addas i gadeiriau olwyn nac i bobl na phlant sy’n ansicr ar eu traed.
I fynd i’r sioe mae angen cyfarfod ym maes parcio Capel Gwydyr LL26 0PN, OS map 115: SH 694609
Mae pob perfformiad yn 2 awr o hyd.
Diolchiadau
Cyngor Celfyddydau Cymru, Golygfa Gwydyr, Theatr Cynefin, Conwy Bwrdeistrwf Sirol Conwy, Cronfa Arbrofol Eryri, Watkin Jones, Menter Iaith Conwy