CYNLLUN HYFFORDDI RHAN-AMSER DROS 6 MIS (Datblygu Proffesiynol)
Oes gen ti o leiaf 12 mis o brofiad proffesiynol yn y diwydiant teledu fel ymchwilydd, neu mewn amgylchedd cynhyrchu neu datblygu?
Wyt ti eisiau gweithio gyda, a dysgu gan Ymchwiliwr Preifat, Arbenigwyr pwnc a rhai o Newyddiadurwyr uchaf eu parch y diwydiant?
Wyt ti eisiau bod yn Ymchwilydd Rhagorol?
Mae’r Ymchwilydd Rhagorol yn gynllun hyfforddi newydd sbon ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd ag o leiaf 12 mis o brofiad a sgiliau yn y maes ymchwil, ac sydd eisiau ehangu ymhellach ar y sgiliau gan ganolbwyntio ar wella eu sgiliau ymchwilio a newyddiaduraeth.
Cynnigir
- * Rhaglen dwys o weithdai sy’n cael eu cynnal mewn 4 sesiwn 1 wythnos dros gyfnod o chwe mis (perffaith ar gyfer gweithio a hyfforddi ar yr un pryd)
* Mynediad i dros 20 o siaradwyr a tiwtoriaid gorau’r diwydiant
* Cyfres o frîffiau gan y diwydiant – bydd disgwyl i chi gyd-weithio â cyfranogwyr eraill ar-lein ac oddi-ar-lein
* Mentor profiadol o’r diwydiant, Cynllun Hyfforddi Unigol a cefnogaeth staff Cyfle
********
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 12 y prynhawn, 6ed o Ebrill 2011
AM FANYLION PELLACH EWCH I’R WEFAN –
http://bit.ly/gmzE6v
______________
Ariannir y cynllun hwn gan S4C a TAC, cefnogir gan Skillset Cymru a cyflwynir mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales â’r ATRiuM