Dyma ni eto; brenhiniaeth Lloegr yn cael ei “wthio” arnom gyda’r briodas diweddara’ ma ac fel mae’r diffyg diddordeb mewn trefnu partïon stryd yn dangos, does gan y mwyafrif o bobl Cymru ddim diddordeb! Does wnelo’r briodas Brydeinig ‘ma ddim a ni. Trist oedd gwylio’r newyddion y noson o’r blaen a gweld Cymry ifanc iawn mewn ysgol meithrin yn cael eu cyflyru a’u hannog i wneud ‘bunting jac yr undeb’ ar gyfer partïon stryd. Dylai rhieni gwlatgar Cymreig holi os yw eu plant nhw yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y math hwn o weithgaredd - a chwyno i’r ysgol ac i’r awdurdodau addysg leol os ydynt. Wrth gwrs, mae’r mwyafrif ohonom yn hoff o bartïon - ac yn enwedig yr hen blant, ac fel modd o sicrhau nad yw’r plant yn teimlo eu bod yn colli allan, gellir trefnu gweithgareddau mwy perthnasol i ni fel Cymry fel ‘picnics’ neu farbiciws a phasiantau Glyndŵr ym mharciau Cymru.
Mae trefnu picnic neu farbiciw yn ddigon rhwydd ac rwy’n siŵr byddai modd o gael hyd i ‘glerwyr Glyndŵr’ ac artistiaid eraill (cwmnïau pypedau, storïwyr ac ati) a fyddai’n barod i fynychu i gyflwyno adloniant ar gyfer y plant yn rhad ac am ddim ac os am ddihangfa, beth am ymweld â safleoedd Glyndwraidd yn eich cymunedau neu mewn rhannau eraill o Gymru?
Yn ogystal , gall pob unigolyn yng Nghymru fynd ati o ddifrif i godi baner Glyndŵr ym mhob ‘gwagle’ ellir cael hyd iddo drwy’r genedl er mwyn gorchuddio’r môr o faneri ‘jac yr undeb a fydd, o fewn wythnos neu ddwy, yn gormesu tirlun ein cenedl.
Byddai chwifio’r ‘Ddraig Goch’ - baner y Tuduriaid a atgyfodwyd gan Lloyd George ar gyfer Arwisgiad 1911 ddim yn gwneud y tro. Yn y lle cyntaf, byddai’n cael ei gam-ddeall gyda phobl yn meddwl ein bod yn ymuno yn nathliadau’r briodas yng Nghymru - ac wrth gwrs, tyda ni ddim