Tudalen 1 o 2

Digwyddiadau Gwrth-Frenhinol - Dydd Gwener, Ebrill 29ain

PostioPostiwyd: Gwe 08 Ebr 2011 10:27 am
gan Hedd Gwynfor
Postiwch fanylion unrhyw ddigwyddiadau gwrth/anwybyddu'r Frenhiniaeth sy'n cael eu cynnal ar y 29ain o Ebrill yma er mwyn helpu pawb sydd am osgoi'r 'Briodas Fawr'! Dyma un...

Diwrnod i'r Brenin!
Y Ship, llangrannog


Rhost Mochyn, Raffl Fawreddog, Gemau arbennig drwy'r dydd ac i goroni'r dydd Perfformiad gan yr anfarwol AIL SYMUDIAD!

http://www.facebook.com/event.php?eid=138135576259694

Re: Digwyddiadau Gwrth-Frenhinol - Dydd Gwener, Ebrill 29ain

PostioPostiwyd: Gwe 08 Ebr 2011 10:31 am
gan Hedd Gwynfor
a hwn:

REPUBLICAN CAMP MACHYNLLETH

Edrych i osgoi'r Briodas frenhinol? Yna beth am ddod i benwythnos gwersylla gweriniaethol
Y gost yw £10 y noson ar gyfer pabell a 2 berson
Ar fferm Llwyngwern, Machynlleth.

http://www.facebook.com/event.php?eid=170159619692369

Re: Digwyddiadau Gwrth-Frenhinol - Dydd Gwener, Ebrill 29ain

PostioPostiwyd: Gwe 08 Ebr 2011 11:05 am
gan ceribethlem
Diwrnod Gweriniaethol Bethlem Bach

yn fy nhy, Bethlem BAch, yng Nghlydach. Gwyl ffilmiau Tarantino, BBQ a chwrw.
Mynediad am Ddim, yn llythrennol, nid y band!

Re: Digwyddiadau Gwrth-Frenhinol - Dydd Gwener, Ebrill 29ain

PostioPostiwyd: Llun 11 Ebr 2011 6:11 am
gan Hen Rech Flin
Sori os ydwyf yn ymddangos yn dwp, ond onid ydy gweithgaredd sy'n "amgen" i'r sblot brenhinol yn tynnu sylw at y digwyddiad?

Onid y peth callaf i wneud yw ei hanwybyddu'n llwyr, trwy wneud y pethau dibwys y byddid dyn yn gwneud ar unrhyw ddiwrnod arall?

Re: Digwyddiadau Gwrth-Frenhinol - Dydd Gwener, Ebrill 29ain

PostioPostiwyd: Llun 11 Ebr 2011 6:20 am
gan Josgin
Na - mae pawb yn ymwybodol o'r digwyddiad beth bynnag. Trwy ddangos a hyrwyddo digwyddiad sy'n gwrthwynebu, mae rhywun yn pryfocio a chythruddo'r Saisgarwyr a Huw Edwradses yn ein plith .Mae yna wahaniaeth rhwng difaterwch a gwrthwynebiad.

Re: Digwyddiadau Gwrth-Frenhinol - Dydd Gwener, Ebrill 29ain

PostioPostiwyd: Llun 11 Ebr 2011 6:38 am
gan Hen Rech Flin
Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i'r briodas, mawr groeso i’r deuddyn ymbriodi, onid dyna hawl sydd gan unrhyw gwpl ?

Ar ddiwrnod fy mhriodas i, aeth y teulu brenhinol o gwmpas eu bywyd pob dydd heb falio botwm corn fy mod i'n priodi - rwyf am dalu'r pwyth yn ôl trwy ymddwyn yn yr union un modd.

Y gwir yw nad oes gennyf y diddordeb lleiaf yn y briodas - dim diddordeb i’w ddathlu a dim diddordeb i’w gwrthwynebu!

Re: Digwyddiadau Gwrth-Frenhinol - Dydd Gwener, Ebrill 29ain

PostioPostiwyd: Maw 12 Ebr 2011 12:50 pm
gan ceribethlem
Hen Rech Flin a ddywedodd:Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i'r briodas, mawr groeso i’r deuddyn ymbriodi, onid dyna hawl sydd gan unrhyw gwpl ?

Ar ddiwrnod fy mhriodas i, aeth y teulu brenhinol o gwmpas eu bywyd pob dydd heb falio botwm corn fy mod i'n priodi - rwyf am dalu'r pwyth yn ôl trwy ymddwyn yn yr union un modd.

Y gwir yw nad oes gennyf y diddordeb lleiaf yn y briodas - dim diddordeb i’w ddathlu a dim diddordeb i’w gwrthwynebu!

Y pwynt i nifer yw fy y blydi briodas yma'n cael ein gwthio lawr gyddfau pawb hyd syrffed. Pan briodes di, doedd dim lot o ffys sycoffantaidd am y peth, felly dim angen i neb ei wrthwynebu. Mae'r holl beth yn ymddangos fel publicity stunt i'r teulu brenhinol.
Ffwcio hwnna, fi mynd i gael parti bach gweriniaethol yn fy nhy gyda ffrindie da.

Re: Digwyddiadau Gwrth-Frenhinol - Dydd Gwener, Ebrill 29ain

PostioPostiwyd: Iau 14 Ebr 2011 1:31 am
gan Hen Rech Flin
Dyna yn union sydd yn peri dryswch imi! Trwy gael parti bach, yr wyt yn cofnodi'r achlysur trwy ddathliad – ti'n dathlu'r briodas! Pam?
Os wyt am gael parti i ddathlu cenedlaetholdeb, neu'r achos gweriniaethol pam ei gynnal ar y dwthwn hwnnw?

Re: Digwyddiadau Gwrth-Frenhinol - Dydd Gwener, Ebrill 29ain

PostioPostiwyd: Sad 16 Ebr 2011 6:06 pm
gan Duw
Wel, bydda i'n parhau gyda fy mywyd heb gymryd unrhyw sylw. Gwnaf beth bynnag dwi ishe. Os ydw i ishe dathlu diwrnod bant, gwnaf hynny. Hoffwn weld mwy o'r twlsod brenhinol yn priodi felly bo mwy o ddiwrnode bant 'da ni. Sneb yn fy ngorfodi i ddathlu. Dyw e ddim yn newid fy nheimladau parthed y Tylwyth Annheg.

Re: Digwyddiadau Gwrth-Frenhinol - Dydd Gwener, Ebrill 29ain

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2011 10:30 am
gan Aerfen
:ing:

Dyma ni eto; brenhiniaeth Lloegr yn cael ei “wthio” arnom gyda’r briodas diweddara’ ma ac fel mae’r diffyg diddordeb mewn trefnu partïon stryd yn dangos, does gan y mwyafrif o bobl Cymru ddim diddordeb! Does wnelo’r briodas Brydeinig ‘ma ddim a ni. Trist oedd gwylio’r newyddion y noson o’r blaen a gweld Cymry ifanc iawn mewn ysgol meithrin yn cael eu cyflyru a’u hannog i wneud ‘bunting jac yr undeb’ ar gyfer partïon stryd. Dylai rhieni gwlatgar Cymreig holi os yw eu plant nhw yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y math hwn o weithgaredd - a chwyno i’r ysgol ac i’r awdurdodau addysg leol os ydynt. Wrth gwrs, mae’r mwyafrif ohonom yn hoff o bartïon - ac yn enwedig yr hen blant, ac fel modd o sicrhau nad yw’r plant yn teimlo eu bod yn colli allan, gellir trefnu gweithgareddau mwy perthnasol i ni fel Cymry fel ‘picnics’ neu farbiciws a phasiantau Glyndŵr ym mharciau Cymru.

Mae trefnu picnic neu farbiciw yn ddigon rhwydd ac rwy’n siŵr byddai modd o gael hyd i ‘glerwyr Glyndŵr’ ac artistiaid eraill (cwmnïau pypedau, storïwyr ac ati) a fyddai’n barod i fynychu i gyflwyno adloniant ar gyfer y plant yn rhad ac am ddim ac os am ddihangfa, beth am ymweld â safleoedd Glyndwraidd yn eich cymunedau neu mewn rhannau eraill o Gymru?

Yn ogystal , gall pob unigolyn yng Nghymru fynd ati o ddifrif i godi baner Glyndŵr ym mhob ‘gwagle’ ellir cael hyd iddo drwy’r genedl er mwyn gorchuddio’r môr o faneri ‘jac yr undeb a fydd, o fewn wythnos neu ddwy, yn gormesu tirlun ein cenedl.

Byddai chwifio’r ‘Ddraig Goch’ - baner y Tuduriaid a atgyfodwyd gan Lloyd George ar gyfer Arwisgiad 1911 ddim yn gwneud y tro. Yn y lle cyntaf, byddai’n cael ei gam-ddeall gyda phobl yn meddwl ein bod yn ymuno yn nathliadau’r briodas yng Nghymru - ac wrth gwrs, tyda ni ddim