Tudalen 2 o 2

Re: Digwyddiadau Gwrth-Frenhinol - Dydd Gwener, Ebrill 29ain

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2011 11:30 am
gan Aerfen
:?

Gwersyll Gweriniaethol yng Nghorris? O'r hyn rwy'n ei ddeall, mae perchennog y tir yn gefnogol i'r Frenhiniaeth Seisnig ac am ddathlu'r briodas ar y 29ain! Ydi, felly, yn syniad da i dalu £10 am osod pabell ar y tir ac i roi arian ym mhoced y brenhinwr arbennig yma? Oni fyddai'n rheitiach i osod "Gwersyll Yma o Hyd" ar 'Faes Edward' yn Nefyn - lle bu i Edward 1af gynnal twrnamaint i ddathlu Gorchfygiad 1282?

Re: Digwyddiadau Gwrth-Frenhinol - Dydd Gwener, Ebrill 29ain

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2011 11:57 am
gan Hedd Gwynfor
Sesiwn - Priodas, pa briodas?
Dydd Gwener, Ebrill 29 · 12am - 3am (Sadwrn)
The Conway Arms, Ffordd Conway, Pontcanna, Caerdydd

Beirdd a pheints trwy'r dydd
http://www.facebook.com/event.php?eid=203509669683724

Re: Digwyddiadau Gwrth-Frenhinol - Dydd Gwener, Ebrill 29ain

PostioPostiwyd: Iau 28 Ebr 2011 11:08 am
gan Aerfen
A ydym erbyn hyn yn genedl mor gachgïaidd a llwfr fel ein bod yn barod i ddioddef yn dawel a mud yr anurddes o weld baneri 'Jac yr Undeb' yn gorchuddio trefi ar hyd a lled ein cenedl yn y modd mwyaf haerllug a gorfoleddus bob tro fydd yna achlysuron brenhinol Seisnig - fel y briodas 'ma a'r jiwbilî sydd eto i ddod yn 2012 a.y.b.? Neu, a oes gennym y mymryn lleiaf o falchder ar ôl i'n galluogi i gyflawni'r weithred fwyaf sylfaenol o drafferthu i chwifio baner 4 Llew Rampiant Owain Glyndŵr yfory - ac yn barhaol wedi hynny, fel modd o ddangos i'r Wladwriaeth Seisnig a'u brenhiniaeth i ni fod yma o hyd ac yr un mor deyrngar i achos Glyndŵr dros ryddid ac y buom erioed!

Apeliwn am i bob gwir wladgarwr Cymreig gyflawni'r weithred sylfaenol yma neu, a ydych i gyd wedi anghofio ac wedi cefnu ar yr hyn bu i Glyndŵr a'i gyd Gymry frwydro ac aberthu cymaint amdano?

Mae'r galwad yma'n hynod o bwysig felly pasiwch ymlaen heddiw os gwelwch yn dda.