Tudalen 1 o 1

Sialens ddwyieithog 2-4 Mehefin, Bangor a Chaernarfon

PostioPostiwyd: Gwe 13 Mai 2011 2:19 pm
gan marikafusser
Ydych chi'n siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl? Beth am roi cynnig ar ein sialens ddwyieithog?
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cyfres o arbrofion lle mae parau o bobl yn cystadlu yn erbyn eu gilydd i ennill bocs o siocled. Ar ben hynny bydd pob tîm yn cael £10 am gymryd rhan.
Pwy geith gystadlu? Unrhyw dimau o ddau o bobl dros 18 oed sy'n siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl.
Dyna beth fydd eisiau i chi wneud: (a) tasg lle mae gofyn i ddau o bobl gydweithio er mwyn cyrraedd y nod - a'r tîm mwya sydyn o bawb yn cael bocs o siocled; (b) tasg gwrando ac ymateb. Bydd y cwbl yn cymryd o gwmpas awr.
Cynhelir yr arbrofion nesaf ar ddydd Iau a Gwener, 2-3 Mehefin ym Mangor ac ar ddydd Sadwrn, 4 Mehefin yng Nghaernarfon.
Am ragor o wybodaeth neu i wneud apwyntiad, cysylltwch â Marika Fusser o Ganolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd:
ffôn: 01286-830913; e-bost: m.fusser@bangor.ac.uk