Tudalen 1 o 1

Pererindod yn erbyn awyrennau di-beilot, Epynt 25/06/11

PostioPostiwyd: Sul 22 Mai 2011 4:16 pm
gan Cymdeithas y Cymod
Sadwrn, 25 Mehefin, 2yp, Shoemakers Arms, Pentrebach, Pontsenni, Aberhonddu, LD3 8UB: Pererindod Cymdeithas y Cymod i Fynydd Epynt er cof am y bobl ddiniwed a laddwyd gan awyrennau di-beilot. Byddwn yn cychwyn o'r Shoemakers Arms am adfeilion Capel y Babell, sydd oddi fewn i faes ymarfer y fyddin. Yno cynhelir gwasanaeth dan ofal ein Llywydd, y Parch Guto Prys ap Gwynfor am 2.30yp. Yn dilyn y gwasanaeth byddwn yn ymweld â'r pentref ffug a adeiladodd y fyddin i gael ymarfer ymladd o dŷ i dŷ. Byddwn yn coffáu rhai o'r bobl ddiniwed a gafodd eu lladd gan awyrennau di-beilot drwy ysgrifennu eu henwau ar y cerrig beddi yn y fynwent ffug yno.
Yr ardal rhwng yr Epynt ac Aberporth ar arfordir Ceredigion yw un o'r ddau le yn Ewrop lle mae hawl i awyrennau di-beilot gael eu harbrofi. Mae'r awyrennau yma yn rhan o'r datblygiad diweddar mewn robotiaid sy'n cael eu defnyddio fel arfau ar faes y gad. Rheolir y rhai a ddefnyddir yn Afghanistan a Libya filoedd o filltiroedd i ffwrdd mewn canolfan yn Nevada yn yr Unol Daleithiau drwy dechnoleg cyfathrebu lloerennau. Canlyniad hyn yw bod llawer o bobl ddiniwed yn cael ei lladd oherwydd camddehongli delweddau ar sgrîn fideo sydd mor bell o'r ymladd.
Dewch gyda ni (ar eich menter eich hun) i'r Epynt i ddangos ein gwrthwynebiad i arbrofi'r awyrennau di-beilot yma yn awyr Cymru ac i anfon neges at y llywodraethau yn San Steffan a Bae Caerdydd nad oes croeso i filitareiddio Cymru.
Am fanylion gweler http://www.cymdeithasycymod.org.uk/epynt.htm neu cysylltwch â cymdeithasycymod@btinternet.com; 01286-830913.