Tudalen 1 o 1

AR Y FAINC - Noson o Farddoniaeth i Dafydd Jones

PostioPostiwyd: Maw 31 Mai 2011 10:31 am
gan Nei
‘Ar y Fainc’ yw enw’r noson ac mae hi’n cynnwys 15 o feirdd(naw yn brifeirdd!) sy’n canu clodydd Dafydd Jones a’r Scarlets. Mae’r beirdd yn cynnwys yr Archdderwydd T James Jones, Tudur Dylan Jones, Ceri Wyn Jones, mererid Hopwood, idris Reynolds, Emyr Lewis, Robat Powell, Tudur Hallam a Hywel Griffiths i enwi dim ond rhai o’r pymtheg!

Mi fydd y beirdd i gyd yn gwisgo crysau Scarlets ar y noson ac yn cadw trefn arnyn nhw yn ei wisg reffarî bydd neb llai na Nigel Owens. Mi fydd Mainc bwrpasol yn cael ei cherfio ar gyfer y noson a honno yn cael ei llofnodi gan y beirdd i gyd. Yn lle bod bardd yn cael ei gadeirio, mi fydd un person yn y gynulleidfa yn cael ei ‘feincio’ a wedi iddo fe neu iddi hi dalu;’r mwyaf am y fainc mewn ocsiwn. Mi fydd elw’r noson i gyd yn mynd i gronfa Dafydd Jones. Mi fydd Dafydd ei hunan yna wrth gwrs ynghyd â sêr rhanbarth y sgarlets hefyd.

Pris tocyn yw £10 sy’n cynnwys bowlen o gawl i bawb fel rhan o’r pris yn ogystal â’r arlwy barddonol wrth gwrs. Cynhelir y noson yn y Bar Quinnell ac mi fydd yna far hwyr yno hefyd.

Gellir prynnu tocynnau drwy ffonio Adrian Howells ar y rhif canlynol(Neu dalu ar y drws):

01554 880826


Mae’r poster i’r noson wedi ei atodi yn yr e-bost. Unrhyw gwestiynnau, peidiwch ag oedi a’u gofyn i fi. Os am sgwrs bellach, ffoniwch fi ar 07973763419.

Re: AR Y FAINC - Noson o Farddoniaeth i Dafydd Jones

PostioPostiwyd: Maw 31 Mai 2011 10:32 am
gan Nei
Mae'r noson yn digwydd gyda llaw am 7 o'r gloch Nos iau yr 2il o Fehefin! Dewch yn llu