Tudalen 1 o 1

Busnes y Cyfryngau Cymdeithasol - cwrs cyfrwng Cymraeg

PostioPostiwyd: Mer 01 Meh 2011 9:51 am
gan RIB
Busnes y Cyfryngau Cymdeithasol

CAERNARFON

_____________________

Dyddiadau: 26+27 o Orffennaf 2011

Lleoliad: Canolfan Hyfforddi Cyfle, Galeri, Caernarfon

Tiwtor: Carl Morris, NativeHQ

Cost: £250+TAW

Cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg fydd hwn

_____________________

Mae nifer o fusnesau bellach yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn creu perthnasau ymglymol gyda pobl a marchnadoedd, cysylltu am gynnyrch, cynnig bargeinion arbennig, datblygu ffyddlondeb cwsmer ac i ymateb i gwestiynnau a thrafodaethau am eu brand.

    Sut mae modd i chi ddefnyddio teclynnau’r cyfryngau digidol er mwyn cyrraedd yr amcanion busnes yma?
    Sut gall y cyfryngau digidol gael ei ddefnyddio er mwyn annog creadigrwydd, taclo problemau, galluogi cydweithredu, datblygu cynulleidfaoedd ac adrodd straeon?
    Pa declynnau sy’n addas ar gyfer eich gwaith chi a beth mae’n nhw’n ei wneud?
    Sut wyt ti’n mynd o gofrestru i gael cyfri ar declyn arlein i’w ddefnyddio’n effeithol ar brosiect go iawn?

Bydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i archwilio’r cwestiynnau yma a chael profiad ymarferol ar lwyfannau sy’n boblogaidd ar hyn o bryd.

_____________________

Pwy ddylai fynychu? -


Unigolion sy’n gweithio mewn marchnata, hyrwyddo neu datblygu busnesau bychan a mawrion yn ogystal a sefydliadau.

Cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yw hwn. Cysylltwch â ni os fasai’n well gennych ddilyn y cwrs yn y Saesneg.

_____________________

CLICIWCH YMA AM FWY O WYBODAETH - http://www.cyfle.co.uk/training-and-skills/professional-development/short-courses/social-media?diablo.lang=cym

_____________________

I SICRHAU LLE AR GWRS NEU I OFYN CWESTIWN CYSYLLTWCH Â –

caernarfon@cyfle.co.uk / 01286 685242

_____________________