Tudalen 1 o 1

Sesiwn "Cymraeg a Saesneg mewn sgyrsiau pob dydd"

PostioPostiwyd: Mer 13 Gor 2011 4:17 pm
gan marikafusser
Mae gwahoddiad i sesiwn drafod ar y pwnc “Cymraeg a Saesneg mewn sgyrsiau pob dydd” yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Pa bryd defnyddiwyd y gair “adferteisio” yn y Gymraeg y tro cynta: ym 1974, 1880 ynteu 1763? Beth ydy tarddiad y gair “rhacs”? Ers faint mae pobl yn dweud “licio”?
I gael yr ateb i hyn a chael nifer o ffeithiau diddorol eraill, galwch draw i’n gweld yn stondin Prifysgol Bangor. Cewch gyfle i ddysgu am hanes y cysylltiad rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn ogystal â chael cipolwg ar sgwrsio dwyieithog yng Nghymru a chymunedau dwyieithog eraill yn y byd. Cewch hefyd roi cynnig ar ein cwis geiriau.
Dyma gyfle unigryw i glywed am ymchwil ddiweddaraf ein grŵp ymchwil, sydd wedi ei leoli yng Nghanolfan yr ESCR dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor. Pwrpas ein hymchwil yw gweld sut mae pobl ddwyieithog yn defnyddio eu dwy iaith pan maent yn sgwrsio gyda’i gilydd.
Bydd y cyflwyniad yn dechrau am 4.00 ac yn mynd ymlaen tan 4.30 ddydd Mawrth 2 Awst ym mhabell Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ger Wrecsam. Mae croeso twymgalon i chi ddod draw. Bydd cyfle i gael sgwrs anffurfiol dros baned ar ddiwedd y sesiwn.
Buaswn yn ddiolchgar pe byddech yn rhoi gwybod i ni a ydych yn bwriadu dod trwy e-bostio m.fusser@bangor.ac.uk. Gobeithiwn eich gweld yno.