Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol.Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.
Helo Hazel . Mae'n wythnos reit ddistaw ar maes-e gan fod pawb yn yr Eisteddfod.... Wedi edrych ar wefan yr Eisteddfod yma : http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/content.php?nID=346 Gwelaf fod 'na linc i'r gweithgareddau ar ochr dde'r dudalen uchod. Clicia ar 'gweithgareddau a map' , wedyn ar 'llyfryn gweithgareddau' [ ochr dde'r dudalen ] . Ac mi wnaiff agor mewn PDF i ti ! Gobeithio y bydd hyn o help i ti ....
Hynny'n iawn, Mali. Gallaf ei gweithio hi allan - yn araf. Dim ond y dygodd rhywun fy motwm amynedd oddi wrthaf. Fodd bynnag, gallaf i'w dweud hi. Arfer da i fi. A wnaeth ti weld y coroni heddiw? Deimladwy iawn.
Hazel
Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Do , wedi gweld y coroni . Oedd, mi 'roedd y seremoni yn un deimladwy iawn i'r enillydd Geraint Lloyd Owen. Wyt ti'n gwylio'r gweithgareddau yn fyw ? Mi wnês i wylio ychydig o seremoni heddiw yn fyw ar wefan y BBC, ond fel arfer , byddwn yn gwylio yr uchafbwyntiau neu recordiad , ar safle we Clic gyda'r nôs.
Yr wyf yn gwylio'r seremoni bob dydd ond fydd i ddim yn ei gweld hi heddiw achos rhaid i mi fynd allan. Yr wyf yn gwylio rhai o'r gweithgareddau eraill. Mae'n dibynnu ar yr hyn sy'n yno.
Boed i di ddiwrnod da.
Hazel
Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Ia , tydi'r amser ddim wastad yn gyfleus i ninnau chwaith i wylio yn fyw , gan ein bod wyth awr ar ôl amser Cymru fach. Ond mi rydan ni wedi mwynhau'r rhaglenni sydd ar safle Clic: http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?series_id=499454332 Maent yn dangos uchafbwyntiau bob diwrnod , sydd yn handi iawn .