Clwb Llyfrau Llenyddiaeth Cymru a Chanolfan y Mileniwm
Bydd Ifan Morgan Jones yn dod i drafod ei nofel Yr Argraff Gyntaf (Y Lolfa 2010), a bydd Grahame Davies yn arwain y drafodaeth.
Canolfan Glyn Jones (yng nghefn Canolfan y Mileniwm, gerllaw canolfan yr Urdd), Bae Caerdydd.
Nos Fawrth, Medi 20, am 7.00 - 8.00pm.
Croeso mawr i bawb, digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond plîs gadewch i ni wybod drwy ebostio post [AT] llenyddiaethcymru.org neu ffonio 029 2047 2266 i mi gael gwybod faint o fisgedi siocled i'w prynu.
Mae gennon ni glwb llyfrau bob mis - yn Saesneg ac yn Gymraeg bob yn ail. Mae awdur y llyfr dan sylw yn bresennol bob tro. Mi fydd Howard Marks yn dod i drafod ei thriller cyntaf yn gynnar yn y flwyddyn newydd.