Tudalen 1 o 1

Lansiad Llyfr Gwyn Caerfyrddin, 21 Medi, Caerfyrddin

PostioPostiwyd: Sul 11 Medi 2011 5:54 pm
gan Cymdeithas y Cymod
Mercher, 21 Medi, 5yh, Neuadd San Pedr, Caerfyrddin: Lansiad Llyfr Gwyn Caerfyrddin. Llyfr cain gyda thudalennau gwag y gwahoddir trigolion Caerfyrddin a'r cylch i'u harwyddo i nodi eu bod o blaid heddwch. Trefnir y digwyddiad gan gell Caerfyrddin o Gymdeithas y Cymod mewn cydweithrediad â Chyngor Tref Caerfyrddin. Croeso i bawb. Manylion: 07855868077.


Bydd rhai fynychwyr y digwyddiad yn cerdded yno mewn relái o Aberporth ar arfordir Ceredigion. Bydd y daith yn cychwyn am 7.00 y bore tu allan i swyddfa QinetiQ ym Mharc Aberporth. Bydd yn mynd drwy Beulah, Castellnewydd Emlyn, Hermon, Cynwyl Elfed, Bwlchnewydd a Trefechan cyn i'r criw ymuno â digwyddiad lansio Llyfr Gwyn Caerfyrddin am 5yh. Prif bwrpas y daith yw codi ymwybyddiaeth a dangos gwrthwynebiad i'r awyrennau di-beilot ('drones') sydd yn cael eu profi yn Aberporth. Os hoffech gerdded rhan o'r daith, cysylltwch â Guto Prys ap Gwynfor ar 01559 363649 neu Cen Llwyd ar 07970 596887.